Mae Cymuned yn credu bod modd ennill dyfodol i'n cymunedau Cymraeg trwy:
- Codi treth stamp ychwanegol ar brynwyr tai sydd ddim yn lleol
- Mynnu i gynghorau sir yn y Fro weithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg
- Mynnu bod ysgolion yn y Fro yn rhoi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr
Os wyt ti'n cytuno gyda ni, dos at y tudalen 'Ymgyrchoedd' i helpu ni gyrraedd y nod - neu lenwa'r ffurflen isod i helpu ymledu'r gair.
Os oes gen ti syniadau eraill, dos at y tudalen 'Syniadau Chdi' a gad i bawb wybod amdanyn nhw - bydd y rhai mwyaf boblogaidd yn dod yn rhan o'n gwaith swyddogol.
***
Gyda llaw, dan ni'n ymddiheuro am y darnau o Saesneg ar y tudalennau yma - dydy'r sustem ddim eto ar gael yn y Gymraeg, ond dan ni wedi cynnig trefnu'r cyfieithu, felly cyntaf bydd modd dyna beth wnawn ni...:-)
Hoffi hwn er mwyn annog gwirfoddoli ymysg dy ffrindiau.
Gyda llawer o gystlltiadau rhyngwladol yn ogystal a Chymru a Lloegr, hoffwn fod mewn sefyllfa i ddatblygu ein neges ymhellach ac yn ehangach. Rydw i'n gwbl rhugl yn Ffrangeg a Saesneg hefyd a gallaf genhadu mewn tair iaith ar feysydd rhyngwladol ee cynhadleddau, ffeiriau iaith ac ati ym Mharis a thu hwnt.
Fel academydd gallaf hefyd ddosbarthu gwybodaeth i gyd-weithwyr ym meysydd ieithyddiaeth, sosioieithyddiaeth, ac Astudiaethau Celtaidd yn fyd-eang ac yn hoffi creu 'digwyddiadau' er mwyn hybu'r Gymraeg.
Rwyf eisoes yn cyd-weithio'n glos a thim newsnetscotland i gryfhau dolennau rhwng cenedlaetholwyr yr Alban a Chymru.
Gallaf weithio fel unigolyn neu fel rhan o dim.
Diolch am eich cyd-weithrediad,