Mae ysgolion cyfrwng Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg yn gadael i lawr y plant sydd yn eu mynychu nhw.
Maen nhw'n gadael y plant heb y gallu i gymryd rhan gyflawn yn eu cymunedau eu hunain.
Mae hyn yn annerbyniol ac yn anfoesol.
Maen nhw hefyd yn annog mewnfudwyr i feddwl nad oes rhaid dysgu iaith eu cymuned newydd, a bod dim angen i'w plant ddod yn rhan o'r gymuned newydd honno.
Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod er mwyn galw ar y Cynulliad i fynnu bod pob ysgol yn Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr.
[Nid yw'r ddeiseb hon yn cynnwys Sir Gâr eto am nad oes gwirfoddolwyr gynnon ni sydd yn gyfarwydd â'r sefyllfa yn Sir Gâr. Pe hoffet weld Sir Gâr yn cael ei chynnwys, awgryma hynny o dan 'Syniadau Chdi' - os bydd digon o bobl yn cytuno, byddwn yn ei newid.]
Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:- Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad
- Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn
- Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru
- Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod
- Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fynnu bod pob ysgol yng Ngwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr fel bod eu myfyrwyr yn medru chwarae rhan lawn ym mywyd eu cymunedau eu hunain.
