Aran Jones

Peryg neu gyfle? Uno adrannau cynghorau sir y Gogledd

Mae uno adrannau cynghorau sir yn peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg trwy fygwth polisi iaith Cygor Gwynedd. Os bydd rhaid i adrannau o fewn Cyngor Gwynedd gydweithio gyda chynghorau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg, caiff y gwaith arbennig i normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gwaith Cyngor Gwynedd ei danseilio'n ddifrifol. Modd bynnag, os bydd cynghorau fel Ynys Môn, Conwy a Dinbych yn bachu yn y cyfle i normaleiddio'r Gymraeg yn yr adrannau bydd yn cydweithio gyda Gwynedd, byddai'n gam anferth ymlaen ac yn helpu sicrhau dyfodol gwirioneddol i'r Gymraeg fel iaith broffesiynol y Gogledd.


Deiseb Deffro'r Ddraig i gynllunio ar sail angen lleol

Mae'r ymgyrch ymbarel Deffro'r Ddraig wedi cychwyn deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw am gynllunio ar sail angen lleol yng Nghymru.

Maen nhw eisiau i'r Cynulliad alw pob Cynllun Datblygu Lleol i mewn a gwneud yn siwr nad ydynt yn cynllunio ar sail faint o bobl maen nhw'n disgwyl bydd yn symud i mewn i'w hardal, ond yn hytrach ar yr angen lleol go iawn.

Rydym yn cefnogi hyn ac yn gofyn yn garedig i chi lofnodi'r ddeiseb:

Clicia yma i'w wneud.


published Comisiynydd iaith in Blog 2011-08-16 04:19:28 -0400

Comisiynydd iaith

Mae erthygl yn y Western Mail yn trafod rôl y comisynydd iaith, gyda mewnbwn oddi wrth Cymdeithas yr Iaith a Cymuned:

Clicia yma i'w weld.

Fel sydd i'w ddisgwyl, mae llond llaw o bobl negyddol wedi gadael sylwadau negyddol - os oes gen ti 5 munud i adael sylw call, byddai hynny'n beth da (ond paid cael dy dynnu i mewn i ddadl di-ben-draw - mae gen ti bethau gwell i'w wneud na'r bobl sydd yn ymateb bob pum munud am ddiwrnod cyfan!).

Mae mwy am waith y Comisynydd yn fan hyn:

Clicia yma.


commented on Protestio Gweladwy ac Effeithiol 2011-07-19 17:41:59 -0400 · Flag
Syniad diddorol. Dw i’n meddwl os oes cefnogaeth i’r syniad gwreiddiol, cawn ddechrau symud ymlaen ac efallai wedyn trafod sut i eirio baneri ayyb…

published Dyfodol polisi iaith Gwynedd in Blog 2011-07-19 05:30:51 -0400

Dyfodol polisi iaith Gwynedd

Mae disgwyl y bydd Carl Sargeant, Gweinidog dros Lywodraeth Leol, yn cyflwyno mesur llywodraeth leol bydd yn gorfodi cynghorau sir i 'gydweithio'n agosach' er mwyn arbed arian a gwella gwasanaethau.

http://news.bbc.co.uk/democracylive/hi/wales/newsid_8811000/8811477.stm

Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch dyfodol polisi iaith Gwynedd – sut effaith bydd cydweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn neu Gyngor Sir Conwy yn cael ar ddefnydd proffesiynol ymarferol o'r Gymraeg o fewn Cyngor Gwynedd?

Mae'n bosib y bydd yn niweidiol iawn – ac mae polisi iaith Cyngor Gwynedd yn un o lwyddiannau pwysicaf yr ymgyrch iaith yn y chwarter canrif ddiwethaf. Mae wedi gosod yr iaith Gymraeg yn arf economaidd a phroffesiynol o bwys yng Ngwynedd, a dim trwy gyd-ddigwyddiad mae Gwynedd erbyn hyn yn sir cryfaf Cymru o ran defnydd cymunedol o'r Gymraeg.

Byddai gwanhau polisi iaith Gwynedd yn hynod niweidiol i ddyfodol y Gymraeg.

Ar yr un pryd, byddai estyn polisi iaith Gwynedd i Ynys Môn a Chonwy (fel man cychwyn) yn gam ymlaen o bwys anferth, ac yn mynd yn bell iawn tuag at sichrau dyfodol wirioneddol cynaladwy i'r iaith fel iaith gymunedol.

Os wyt ti'n cytuno bod hyn yn un o'r cwestiynau pwysicaf ynglŷn â'r iaith yn y ddegawd hon, llofnoda'r ddeiseb i alw am estyn polisi iaith Gwynedd i gynghorau sir eraill sydd yn gyfrifol am gymunedau Cymraeg:

http://www.cymuned.org/iaith

Os wyt ti'n fodlon helpu cwffio dros hyn, mewn unrhyw ffordd o gwbl (o sgwennu llythyrau hyd at drefnu gweithredoedd) yna beth am wirfoddoli:

http://www.cymuned.org/gwirfoddoli


published Ymateb i erthygl rhyfedd y Cymro in Blog 2011-07-16 05:37:33 -0400

Ymateb i erthygl rhyfedd y Cymro

Fel bydd rhai ohonoch chi efallai wedi gweld, mae'r Cymro yr wythnos hon wedi cyhoeddu tudalen blaen (dim llai!) yn awgrymu nad yw'r mudiad Cymuned yn bodoli am bod y Cymro wedi methu cael gafael arnom ni.  Mae'n bosib mae dyma'r tudalen blaen mwyaf rhyfedd dw i erioed wedi'i ddarllen!

A wnaethoch chi anfon ebost atom ni, Mr Halliday?  Mae ein cyfrif ebost yn awgrymu fel arall.

A wnaethoch chi ffonio rhif ffôn symudol y Cadeirydd, Mr Richard Evans, sydd wedi bod ar gael i'r Wasg ers blynyddoedd?  Naddo, mae'n ymddangos.

A wnaethoch chi ffonio rhif ffôn symudol y Prif Weithredwr, Mr Aran Jones, sydd wedi bod ar gael i'r Wasg ers blynyddoedd?  Naddo, mae'n ymddangos.

A wnaethoch chi gofrestru ar y wefan mae'r Cymro yn cyfeirio ati yn yr erthygl, lle mae modd i unrhyw un gynnig syniadau, gwirfoddoli, neu gysylltu gyda'r mudiad?  Mae ein cofnodion yn dangos fel arall.

A wnaethoch chi anfon Tweet atom ni, efallai?  O, na, mae'n ddrwg gen i, wnaethoch chi ddim.

Efallai bod chi wedi trio Facebook?  Naddo - i bobl ifanc mae hynny, mae'n siwr.

Yn ystod y cyfnod mae'r Cymro yn honni iddyn nhw geisio cysylltu gyda ni, mae'r canlynol wedi llwyddo i gysylltu gyda ni ac i gydweithio gyda ni: Dweud Petha (S4C), y Daily Post, y Western Mail, a BBC Radio Wales.

Sut oedden nhw yn medru cysylltu gyda ni, Mr Halliday, a chi ddim?

A wnaethoch chi drio anfon colomen, efallai?  Os felly, bydd rhaid i ni ymddiheuro, dydan ni ddim yn cadw ein ffenestri'n agored bob tro.

Cyn sgwennu'r pwt yma o ymateb, rhoddais gynnig ar ffonio'r Cymro er mwyn trafod yr erthygl - ond wnaeth neb ateb y ffôn.

Ydyn nhw'n dal i fodoli, 'sgwn i?

***

Ymddiheuriadau llwyr!

Ein camgymeriad ni!

Mae'n ymddangos i awdures yr erthygl gofrestru ar y wefan hon, fel cefnogwr, ychydig cyn ysgrifennu'r erthygl!

Dyma gip i'n panel rheoli ni:

Karen Owen yn cefnogi Cymuned?!

Pam wnaethoch chi ddim anfon neges trwy'r wefan, Karen?  Mae'n ddigon hawdd.

Neu ebost cyffredin, hyd yn oed?

Neu - efallai - doeddech chi ddim isio siarad gyda ni cyn rhedeg stori camarweiniol sydd yn ail-adrodd ambell i hen gelwydd?


commented on Canolbwyntiad teg 2011-07-11 05:42:41 -0400 · Flag
Diolch am dy fewnbwn, Adam. Fyddet ti’n fodlon cynnig cynnwys gwell at dy ddant (heb ffurfioli fo i’r pwynt o sychdduwioldeb!)? Os felly, byddwn ni’n hapus i’w gynnwys. Fel arall, os ti’n cael dipyn go lew o bobl i gytuno efo chdi trwy farcio hyn yn ‘Dda’, byddwn ni’n trio cael hyd o wirfoddolwyr eraill i wneud y gwaith.

Pan ti'n gwirfoddoli ac felly'n gweld y tudalen hwn...

Byddai'n wych taset ti'n medru rhoi un blog bach i fyny i ddweud helo! :-)


signed Iaith Cynghorau Sir 2011-07-07 08:25:48 -0400

Iaith Cynghorau Sir

Allan o 22 cyngor sir, dim ond un, Gwynedd, sydd yn gweithio'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae polisi iaith Gwynedd wedi gwneud gwahaniaeth hynod bwysig i agweddau tuag at y Gymraeg yng Ngwynedd.

Mae'n hen bryd i gynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr ddilyn polisi iaith Gwynedd - byddai'n creu gwaith safonol i siaradwyr y Gymraeg, gwasanaethau dwyieithog cyflawn i drigolion i siroedd hynny, a rheswm clir ac ymarferol i fewnfudwyr ddysgu'r iaith.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod yn galw ar y Cynulliad i annog y cynghorau sir hynny i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Ceredigion, Sir Gâr, Conwy ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.

Diolch!

36 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog cynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd a gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.


signed Addysg Gymraeg 2011-07-06 06:59:42 -0400

Addysg Gymraeg

Mae ysgolion cyfrwng Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg yn gadael i lawr y plant sydd yn eu mynychu nhw.

Maen nhw'n gadael y plant heb y gallu i gymryd rhan gyflawn yn eu cymunedau eu hunain.

Mae hyn yn annerbyniol ac yn anfoesol.

Maen nhw hefyd yn annog mewnfudwyr i feddwl nad oes rhaid dysgu iaith eu cymuned newydd, a bod dim angen i'w plant ddod yn rhan o'r gymuned newydd honno.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod er mwyn galw ar y Cynulliad i fynnu bod pob ysgol yn Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr.

[Nid yw'r ddeiseb hon yn cynnwys Sir Gâr eto am nad oes gwirfoddolwyr gynnon ni sydd yn gyfarwydd â'r sefyllfa yn Sir Gâr.  Pe hoffet weld Sir Gâr yn cael ei chynnwys, awgryma hynny o dan 'Syniadau Chdi' - os bydd digon o bobl yn cytuno, byddwn yn ei newid.]

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
44 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fynnu bod pob ysgol yng Ngwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr fel bod eu myfyrwyr yn medru chwarae rhan lawn ym mywyd eu cymunedau eu hunain.


signed Treth Stamp 2011-07-05 14:49:57 -0400

Treth Stamp

Mae treth stamp eisoes yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol - byddai'n hawdd iawn iddo fo amrwyio o blaid pobl leol hefyd.

Byddai pobl leol yn cael gostyngiad ar dreth stamp wrth brynu tŷ, a byddai pobl o tu allan i'r sir/gwlad yn talu'n ychwanegol - gyda'r arian ychwanegol yn mynd at brosiectau tai fforddiadwy lleol.

Dyma'r unig ffordd i wneud yn siwr bod pobl leol yn medru cystadlu yn y farchnad agored - yn hytrach na gorfod symud i mewn i ghettoes tai fforddadwy yn unig.

Os wyt ti'n cytuno gyda'r syniad yma, ac isio i ni bwyso ar y Cynulliad i ofyn am y grym i weithredu hyn, llofnoda'r ddeiseb isod.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
24 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Genedlaethol Cymru i geisio'r grym angenrheidiol er mwyn cynyddu'r treth stamp ar gyfer prynwyr sydd ddim yn lleol, ac er mwyn cynnig gostyngiad ar dreth stamp ar gyfer prynwyr lleol.


commented on Ydy hyn y ffordd orau i hyrwyddo trafodaeth? 2011-07-03 14:55:53 -0400 · Flag
Ac fel hyn mae sylwadau yn dangos…:-)

commented on Pwy sy'n gwneud beth? 2011-07-02 06:54:31 -0400
Wedi symud hen wefan Cymuned draw at y sustem newydd y mae’r SNP wedi’i ddefnyddio.

Dy waith di

Pan wyt ti'n gwneud unrhyw ddarn o waith ar gyfer Cymuned, gad i bawb arall wybod amdano fo yn fan hyn.

Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bawb fedru gweld beth sy'n cael ei gyflawni, felly paid â bod yn swil!


published Ffrwd Gwaith 2011-07-02 06:16:48 -0400

published Dyma wefan newydd Cymuned in Blog 2011-07-01 17:45:21 -0400

Dyma wefan newydd Cymuned

Wedi trafodaeth ar y Pwyllgor Gwaith ac yn y Cyfarfod Blynyddol, dan ni wedi penderfynu defnyddio sustem newydd er mwyn galluogi ni i gysylltu'n well efo pobl sydd isio gwneud gwahaniaeth.

Cafodd yr un sustem ei ddefnyddio gan yr SNP yn yr etholiad diwethaf yn yr Alban, ac mae'n gwneud hi'n bosib i gefnogwyr ac aelodau gweld a llywio popeth sy'n digwydd efo'r mudiad - fel y gweli di wrth edrych o gwmpas y gwahanol ffyrdd mae modd i ti osod dy syniadau di wrth galon y mudiad rwan, trwy awgrymu ymgyrchoedd neu dactegau a thrwy ennill cefnogaeth i'th syniadau, neu drwy alw am gyfarfodydd cyhoeddus neu hyd yn oed raliau.

Mae'r sustem, NationBuilder, wedi dweud wrthom ni y bydd modd i ni gyfieithu'r rhyngwyneb yn iawn erbyn diwedd y flwyddyn - tan hynny, rydym yn ymddiheuro am y darnau bach o Saesneg fan hyn a fan draw ar y wefan.