Y Cyfrifiad a'r Fro
Mae llawer wedi'i ysgrifennu ynglŷn â ffigyrau'r cyfrifiad, a'r gostyngiad fu yn niferoedd y Cymry Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf, felly does dim pwynt i fi ail dorri'r un un cwysi. Ond mae un elfen nag ydw i wedi gweld yn cael ei grybwyll gan eraill:
Yn y Fro, mae cyfatebiaeth ddiddorol i'w weld rhwng niferoedd y Cymry Cymraeg a'r niferoedd a anwyd yn Lloegr.
Darllen ymlaenTorri gwair, neu dorri ar fenter lleol?
Mae Cyngor Ynys Môn newydd dyfarnu cytundeb torri gwair i gwmni Glendale o swydd Caerhirfryn, Lloegr. Mae'r cyngor, sydd bellach yn cael ei redeg gan Gomisiynwyr yn hytrach na'i gynghorwyr etholedig ei hunan, wedi'i feirniadu'n hallt gan rai am osod y cytundeb hwn gyda chwmni o Loegr: Tan nawr, bu'r cytundeb gan Gyngor Sir Gwynedd, ac mae ofnau y bydd swyddi lleol yn cael eu colli, a thorwyr gwair di-Gymraeg yn dod o bell i gynnal a chadw ysgolion Môn.
Darllen ymlaenE-bost Mis Mawrth 2012
Dyma destun yr e-bost misol a anfonwyd at ein cefnogwyr ym Mis Mawrth:
- Ymgyrch cyntaf Cymuned.org
- Strategaeth Iaith
- Straeon diddorol yn y wasg
Ers i ni agor ein gwefan newydd, r'yn ni wedi bod yn dysgu sut i'w defnyddio, ac yn trio gwahanol ffyrdd o gysylltu gyda'n aelodau a'n cefnogwyr (gweler isod). Efallai dy fod ti wedi sylwi ar ein cyfrif trydar yn dechrau bywiogi, gyda newyddion o'r hyn sydd yn digwydd yn y Fro.
Darllen ymlaenRadio Ceredigion: Argymhellion Cymuned i OFCOM
I weld cefndir ein argymhellion, clicia yma
Mae'n hanfodol i ardal Ceredigion bod ysytyriaeth ddofn o natur y sir yn elfen greiddiol wrth gloriannu ceisiadau trwydded Town & Country a Radio Ceredigion 2012 cyf.
Yn ôl eich canllawiau eich hunain, diben radio lleol yw adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir. Yng Ngheredigion, ceir sir naturiol ddwyieithog, lle mae modd clywed Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd drwy'r sir. Y mae'n arwydd o iechyd y gymuned bod pawb, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, yn arfer ar glywed y Gymraeg bob dydd. Y mae'n rhan annatod o fyw mewn cymuned ddwyieithog.
Darllen ymlaenRadio Ceredigion: Ceisiadau am y Drwydded Newydd
Llynedd, ceisiodd cwmni radio Town and Country ganiatad i newid amodau trwydded darlledu Radio Ceredigion. Roeddent am dorri ar y gofyniad am ddwyieithrwydd (tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg), a chynnwys 20% cerddoriaeth Cymraeg. Gwrthodwyd eu cais ar ôl i'r cyhoedd wrthod, bron yn unfrydol mewn ymgynghoriad gan OFCOM.
Eleni, daw'r drwydded i ben. Fel arfer, y mae'r hawl gan ddeiliad trwydded i ail-gynnig amdani drwy broses cyflym sydd yn sicrhau parhad gwaith y trwyddedai. Ond nid oes modd amrywio'r amodau mewn cais o dan y drefn gyflym, felly, mae T&C wedi rhoi'r gorau i'r drwydded, er mwyn ceisio eto ar eu telerau eu hunain. Ond y mae perygl na fydd T&C yn ad-enill y drwydded, gan fod cwmni arall hefyd wedi ceisio amdani.
Darllen ymlaenYma o Hyd, neu Cerddwn Ymlaen?
Na, nid rhyw bop-cwis rhyfedd, ond golwg byr iawn ar un agwedd o strwythr gweithredu newydd Cymuned.
O sgrifbin Dafydd Iwan y daw'r ddwy anthem hon – dwy o ganeuon mwyaf adnabyddus y dadeni Cymraeg modern. Mae nhw'n ganeuon lled-debyg i'w gilydd, yn sôn am lewyrch ein gorffennol, a'n gobeithion at y dyfodol.
Rydw i'n deall fy mod, o bosib, yn darllen gormod mewn i un ffaith bach, ond tybed sawl un arall sydd wedi sylwi taw, o'r ddwy, “Yma o hyd” yw'r gân a gaiff ei chanu fwyaf, ar radio ac yn y dafarn, gan gorau meibion a chorau cae rygbi.
Darllen ymlaenSwyddi a'r Gymraeg
Ddoe, bu rhaglen ar BBC Wales, “The Radio Wales Phone In” gyda Jason Mohammed yn trafod y cwestiwn dyrus “P'un sydd bwysicaf, Swyddi, neu'r iaith Gymraeg?”
Ymateb (neu gorymateb efallai) oedd y cwestiwn rhyfedd hwn i anniddigrwydd Cymdeithas yr Iaith bod cwmni uniaith Saesneg yn cynnal arolwg o effaith adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar y Gymraeg.
Darllen ymlaenPeryg neu gyfle? Uno adrannau cynghorau sir y Gogledd
Mae uno adrannau cynghorau sir yn peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg trwy fygwth polisi iaith Cygor Gwynedd. Os bydd rhaid i adrannau o fewn Cyngor Gwynedd gydweithio gyda chynghorau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg, caiff y gwaith arbennig i normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gwaith Cyngor Gwynedd ei danseilio'n ddifrifol. Modd bynnag, os bydd cynghorau fel Ynys Môn, Conwy a Dinbych yn bachu yn y cyfle i normaleiddio'r Gymraeg yn yr adrannau bydd yn cydweithio gyda Gwynedd, byddai'n gam anferth ymlaen ac yn helpu sicrhau dyfodol gwirioneddol i'r Gymraeg fel iaith broffesiynol y Gogledd.
Darllen ymlaenGwendidau Ysgolion Dwyieithog
Mae'r cofnod isod wedi'i gymryd o flog Adam Jones, Blog Banw, sydd i'w weld yma. Mae'n arbennig o berthnasol i'r Fro Gymraeg, lle mae unrhyw wendid yn y gyfundrefn addysg yn mynd i arwain at wanhau'r Gymraeg bob tro. Diolch i Adam am ei ganiatad i ddefnyddio'r darn, ac am ei sylwadau cefnogol.
Darllen ymlaenWRVS - tudalen Facebook
Diweddariad - y mae tudalen Facebook wedi ei chreu i godi ymwybyddiaeth o benderfyniad y WRVS. Ewch at http://www.facebook.com/pages/Local-Sandwiches-for-Ysbyty-Gwynedd/248518601847240 a "hoffi"'r dudalen er mwyn dangos eich gwrthwynebiad. Yn well fyth, ewch ar wal y WRVS ar Facebook a gadael neges, ac anfonwch neges at ebost y WRVS, sef enquiries@wrvs.org.uk
