Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Deiseb Deffro'r Ddraig i gynllunio ar sail angen lleol

Mae'r ymgyrch ymbarel Deffro'r Ddraig wedi cychwyn deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw am gynllunio ar sail angen lleol yng Nghymru.

Maen nhw eisiau i'r Cynulliad alw pob Cynllun Datblygu Lleol i mewn a gwneud yn siwr nad ydynt yn cynllunio ar sail faint o bobl maen nhw'n disgwyl bydd yn symud i mewn i'w hardal, ond yn hytrach ar yr angen lleol go iawn.

Rydym yn cefnogi hyn ac yn gofyn yn garedig i chi lofnodi'r ddeiseb:

Clicia yma i'w wneud.

2 ymateb Share

Canoli gan y WRVS yn bygwth swyddi ym Mhorthaethwy

Y mae 6 swydd ym Mhorthaethwy dan fygythiad oherwydd canoli gan elusen gymunedol y WRVS.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

Yn ôl gwefan yr elusen, mae'r WRVS yn cefnogi cymunedau lleol mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymateb i argyfyngau, a chydweithio gyda phobl hŷn er mwyn iddynt allu byw bywydau mwy annibynol.

Ond mewn cam sydd, yn ôl y WRVS, wedi'i gymryd er mwyn gwarantu safon y bwyd a ddarperir ganddynt, mae'r WRVS wedi dod â chytundeb gyda Menai Deli i ddarparu brechdanau i Ysbyty Gwynedd i ben, a'i roi i gwmni Ginsters o Gernyw yn lle. Rhoddwyd llai na 4 wythnos o rybudd i'r Menai Deli, sydd wedi bod yn darparu brechdanau heb drafferth i'r WRVS ers 20 mlynedd.

Yn ôl y BBC mae Sally Rivers o'r WRVS yn dweud eu bod yn newid y cytundeb: “to ensure we have a clear and consistent message and product with one national sandwich supplier for all our services".

Felly yn ôl yr elusen “gymunedol” hon, dylai popeth drwy Brydain fod yn unfath, rhyw Macdonalds bach gydag “W” yn lle “M”. Does dim gwerth i 20 mlynedd o gydweithio, nag i gefnogi swyddi yn y gymuned leol, ac mae 4 wythnos yn ddigon o rybudd i roi i gwmni bach lleol er mwyn iddo ddiswyddo 6 o'i 10 gweithiwr. Hyd y gwyddwn ni, unig gŵyn y WRVS yn erbyn y Menai Deli yw nad ydy eu brechdannau union yr un fath a'r rhai a werthir gan y WRVS yn Kensington, Salford neu Leith.

Ond hwyrach bod agwedd y WRVS tuag at y gymuned leol yn cael ei adlewyrchu mewn bygythiadau a wnaed, yn ôl rhai, i'w gwirfoddolwyr eu hunain na fyddai modd iddynt barhau petasai nhw'n cefnogi'r cwmni lleol a'i weithwyr drwy arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid.

Mae Cymuned yn credu y dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi busnesau lleol, ac felly yn gwrthwynebu'r penderfyniad rhyfedd hwn gan y WRVS. Nid ydym yn gwybod am ddeiseb arlein, ond rydym yn annog i unrhyw un sydd yn agos at Ysbyty Gwynedd alw yno ac arwyddo'r deisebau sydd yn cylchredeg drwy'r ysbyty – mae dros 400 wedi llofnodi yn barod.

Yn fwy pwerus fyth fyddai i unigolion ysgrifennu at y WRVS. Mae nhw eu hunain yn dweud y byddai'n well gyda nhw ddelio gydag unigolion er mwyn esbonio eu penderfyniad. Ysgrifennwch, a rhannwch eich atebion gyda ni!

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

 

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

 

Y mae 6 swydd ym Mhorthaethwy dan fygythiad oherwydd canoli gan elusen gymunedol y WRVS.

 

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

 

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

 

Yn ôl gwefan yr elusen, mae nhw'n cefnogi cymunedau lleol mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymateb i argyfyngau, a chyweithio gyda phobl hŷn er mwyn iddynt allu byw bywydau mwy annibynol.

 

Ond mewn cam sydd, yn ôl y WRVS, wedi'i gymryd er mwyn gwarantu safon y bwyd a ddarperir ganddynt, mae'r WRVS wedi dod â chytundeb gyda Menai Deli i ddarparu brechdanau i Ysbyty Gwynedd i ben, a'i roi i gwmni Ginsters o Gernyw yn lle. Rhoddwyd llai na 4 wythnos o rybudd i'r Menai Deli, sydd wedi bod yn darparu brechdanau heb drafferth i'r WRVS ers 20 mlynedd.

 

Yn ôl y BBC mae Sally Rivers o'r WRVS yn dweud eu bod yn newid y cytundeb: “to ensure we have a clear and consistent message and product with one national sandwich supplier for all our services".

 

Felly yn ôl yr elusen “gymunedol” hon, dylai popeth drwy Brydain fod yn unfath, rhyw Macdonalds bach gydag “W” yn lle “M”. Does dim gwerth i 20 mlynedd o gydweithio, nag i gefnogi swyddi yn y gymuned leol, ac mae 4 wythnos yn ddigon o rybudd i roi i gwmni bach lleol er mwyn iddo ddiswyddo 6 o'i 10 gweithiwr. Hyd y gwyddwn ni, unig gŵyn y WRVS yn erbyn y Menai Deli yw nad ydy eu brechdannau union yr un fath a'r rhai a werthir gan y WRVS yn Kensington, Salford neu Leith.

 

Ond hwyrach bod agwedd y WRVS tuag at y gymuned leol yn cael ei adlewyrchu mewn bygythiadau a wnaed, yn ôl rhai, i'w gwirfoddolwyr eu hunain na fyddai modd iddynt barhau petasai nhw'n cefnogi'r cwmni lleol a'i weithwyr drwy arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid.

 

Mae Cymuned yn credu y dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi busnesau lleol, ac felly yn gwrthwynebu'r penderfyniad rhyfedd hwn gan y WRVS. Nid ydym yn gwybod am ddeiseb arlein, ond rydym yn annog i unrhyw un sydd yn agos at Ysbyty Gwynedd alw yno ac arwyddo'r deisebau sydd yn cylchredeg drwy'r ysbyty – mae dros 400 wedi llofnodi yn barod.

 

Yn fwy pwerus fyth fyddai i unigolion ysgrifennu at y WRVS. Mae nhw eu hunain yn dweud y byddai'n well gyda nhw ddelio gydag unigolion er mwyn esbonio eu penderfyniad. Ysgrifennwch, a rhannwch eich atebion gyda ni!

4 ymateb Share

Comisiynydd iaith

Mae erthygl yn y Western Mail yn trafod rôl y comisynydd iaith, gyda mewnbwn oddi wrth Cymdeithas yr Iaith a Cymuned:

Clicia yma i'w weld.

Fel sydd i'w ddisgwyl, mae llond llaw o bobl negyddol wedi gadael sylwadau negyddol - os oes gen ti 5 munud i adael sylw call, byddai hynny'n beth da (ond paid cael dy dynnu i mewn i ddadl di-ben-draw - mae gen ti bethau gwell i'w wneud na'r bobl sydd yn ymateb bob pum munud am ddiwrnod cyfan!).

Mae mwy am waith y Comisynydd yn fan hyn:

Clicia yma.

3 ymateb Share

Dyfodol polisi iaith Gwynedd

Mae disgwyl y bydd Carl Sargeant, Gweinidog dros Lywodraeth Leol, yn cyflwyno mesur llywodraeth leol bydd yn gorfodi cynghorau sir i 'gydweithio'n agosach' er mwyn arbed arian a gwella gwasanaethau.

http://news.bbc.co.uk/democracylive/hi/wales/newsid_8811000/8811477.stm

Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch dyfodol polisi iaith Gwynedd – sut effaith bydd cydweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn neu Gyngor Sir Conwy yn cael ar ddefnydd proffesiynol ymarferol o'r Gymraeg o fewn Cyngor Gwynedd?

Mae'n bosib y bydd yn niweidiol iawn – ac mae polisi iaith Cyngor Gwynedd yn un o lwyddiannau pwysicaf yr ymgyrch iaith yn y chwarter canrif ddiwethaf. Mae wedi gosod yr iaith Gymraeg yn arf economaidd a phroffesiynol o bwys yng Ngwynedd, a dim trwy gyd-ddigwyddiad mae Gwynedd erbyn hyn yn sir cryfaf Cymru o ran defnydd cymunedol o'r Gymraeg.

Byddai gwanhau polisi iaith Gwynedd yn hynod niweidiol i ddyfodol y Gymraeg.

Ar yr un pryd, byddai estyn polisi iaith Gwynedd i Ynys Môn a Chonwy (fel man cychwyn) yn gam ymlaen o bwys anferth, ac yn mynd yn bell iawn tuag at sichrau dyfodol wirioneddol cynaladwy i'r iaith fel iaith gymunedol.

Os wyt ti'n cytuno bod hyn yn un o'r cwestiynau pwysicaf ynglŷn â'r iaith yn y ddegawd hon, llofnoda'r ddeiseb i alw am estyn polisi iaith Gwynedd i gynghorau sir eraill sydd yn gyfrifol am gymunedau Cymraeg:

http://www.cymuned.org/iaith

Os wyt ti'n fodlon helpu cwffio dros hyn, mewn unrhyw ffordd o gwbl (o sgwennu llythyrau hyd at drefnu gweithredoedd) yna beth am wirfoddoli:

http://www.cymuned.org/gwirfoddoli

3 ymateb Share

Yr hyn byddwn i wedi dweud wrth y Cymro

Tasen nhw wedi cysylltu, dyma'r hyn byddwn i wedi dweud wrth y Cymro.

Nac ydi, dydy Cymuned ddim mewn sefyllfa cryf ar y funud.  Does dim angen dadansoddiad manwl i weld hynny!  Rydym wedi dioddef (fel nifer o fudiadau eraill) anghytuno mewnol annifyr iawn ar achlysuron, ynghyd ag ymosodiadau allanol digon milain yn erbyn rhai o'n gwirfoddolwyr, ac mae rhai pobl da iawn wedi'u colli i'r mudiad (dros dro, o leiaf) yn sgil hynny.  Aeth incwm y mudiad yn is yn ei sgil hefyd, ac mae'n amser hir rwan ers i ni benderfynu bod rhaid ceisio rhedeg heb wario arian ar gyflogaeth.

Ond mae'r cnewyllyn o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio'n galed iawn ac yn ddiffuant iawn i gadw'r mudiad yn fyw yn haeddu parch am eu hymdrechion, dim gwenwyn.

Cafodd y cyfarfod blynyddol ei gynnal yn y Cwari yn Llanllyfni ar y 25ain o fis Mehefin eleni.  Cafodd y 650 o bobl ar ein rhestr ebost Cymraeg wahoddiad i'r cyfarfod.  Roedd y niferoedd yna yn siomedig, fel sydd wedi bod ers rhai blynyddoedd rwan, ond nid oes modd i ni orfodi aelodau i ddod i gyfarfodydd.

Y gwir 'stori'

Dydy'r nonsens yma am fod Cymuned wedi diflannu ddim yn stori - mae'n ymosodiad milain arall gan rywun sydd gyda hanes o ymosod ar y mudiad, am fod gelyniaeth personol yn bwysicach iddi hi na chael pob llais posib i gymryd rhan yn y frwydr o blaid dyfodol cymunedau Cymraeg.

Y gwir 'stori' ydy pam, yn wyneb diffyg cefnogaeth, mae'r cnewyllyn sydd dal wrthi ddim wedi rhoi'r ffidil yn y to.

Yn hynny o beth, fedra i ddim siarad ar ran y cefnogwyr mwyaf selog, ar ran Richard Evans, Chris Schoen, Iestyn ap Dafydd, Llion Jones, Pol Wong, Carrie Harper, Craig ab Iago neu'r chwech i ddwsin o bobl eraill sydd yn dal i wneud gwaith gwirfoddol ar gyfer Cymuned.

Ond y rheswm dw i dal i wirfoddoli dros y mudiad ydy mod i ddim yn fodlon rhoi'r gorau i bethau dw i'n credu ynddyn nhw.

A, hefyd, dw i'n dal i obeithio y bydd modd i Cymuned wneud gwahaniaeth gwerthchweil.  Mae'r mudiad wedi cyfrannu llawer iawn o syniadaeth mewn llawer iawn o gyfarfodydd gyda'r Cynulliad a chynghorau sir dros y blynyddoedd, a dwi'n gobeithio y bydd modd i ni barhau i'w wneud.  Dw i hefyd yn gobeithio y bydd modd i ni ddefnyddio teclynau newydd ar gyfer cydlynu gwirfoddolwyr ac ymgyrchoedd (fel y wefan hon) er mwyn adeiladu mudiad bydd yn gryfach eto yn y dyfodol. Does dim prawf mod i'n gywir i gredu hynny - ond dw i'n credu bod modd gwneud o, dw i'n credu y byddai'n werthchweil i ni wneud o, ac felly dw i'n credu bod rheidrwydd arna i roi cais teilwng arni.

Ac mae'r ymateb cychwynnol i'r wefan newydd hon wedi bod yn addawol iawn - gwirfoddolwyr blaenorol yn ail-gysylltu, gwirfoddolwyr newydd yn codi llaw, felly hei lwc bydd modd i ni adeiladu rhywbeth o werth yn fan hyn.

Fy sefyllfa personol

Dwi wedi bod yn gyndyn iawn i drafod fy sefyllfa personol a fy nheulu yng nghyd-destun Cymuned dros y blynyddoedd - dyna yn rhannol pam dw i wedi dewis peidio ag ymateb i gymaint o'r ymosodiadau personol a fu.  Ond wrth i'r Cymro ensynnu mewn ffordd annifyr bod rhywbeth o'i le ar y ffaith bod gen i brosiectau eraill ar wahân i Cymuned, mae'n debyg y bydd rhai ohonoch chi gyda diddordeb yn y gwir.

Fel mae ambell un yn gwybod, cefais gyfnod o iselder ar ôl i mi dderbyn llythyr i'n swyddfa ym Mhwllheli yn bygwth fy mywyd i a bywyd fy nheulu ifanc.  Mae'n bur debyg nag o'n i ar fy ngorau o ran fy ngwaith gyda'r mudiad am beth amser wedyn.  Roedd fy ngwraig, fy merch a finnau yn ddi-gartref hefyd am bron i ddwy flynedd, yn rhannol am i mi awgrymu i'r Pwyllgor Gwaith y dylent leihau fy nghyflog yn sylweddol yn sgil yr iselhau roeddwn yn gweld yn incwm y mudiad.

Er lles fy nheulu, roedd angen i mi ymgymryd â nifer o brosiectau gwahanol - ymysg eraill, dw i'n hynod falch o fod wedi cyfrannu gwaith ar yr ymgyrch hir ar gyfer enw parth i Gymru, ac yn falchach byth i fod wedi sefydlu cwrs Cymraeg arlein llwyddiannus ar y cyd gyda Iestyn ap Dafydd, sydd bellach gyda dros 15,000 o ddefnyddwyr (do, roedd ffigyrau'r Cymro yn wallus yn hynny o beth, hefyd!).  Bellach, dw i'n rhannu fy amser gwaith cyflogedig rhwng gwaith dadansoddi sustemau busnes, gwaith marchnata, a'n cwrs Cymraeg - a dw i'n ceisio rhoi diwrnod yr wythnos yn wirfoddol i Cymuned.

Ond esboniad ydy hyn, dim cais am gydymdeimlad!  

Does dim angen cydymdeimlad - dw i'n berson hynod ffodus, gyda theulu ifanc annwyl tu hwnt i eiriau, yn byw mewn llecyn braf mewn cymuned Cymraeg, yn gweithio adref gan amlaf ac yn cael helpu gyda'r plant, ac yn ddigon ffodus i gael gweithio ar bethau dw i wirioneddol yn credu ynddyn nhw.  

Dw i'n hynod ddiolchgar am y bywyd sydd gen i, a dw i'n mwynhau yn fawr iawn gwrthod plygu i'r drefn, a hynny yng nghwmni nifer o bobl wirioneddol arbennig.

A beth nesaf?

Os ydych chi'n teimlo, ar ôl darllen hyn, y byddech chi'n mwynhau rhoi help llaw i fudiad bach sydd yn mynnu byw, cysylltwch!  Cewch ddychmygu pa mor falch byddwn ni i glywed oddi wrthoch chi, a pha mor hapus byddwn ni i helpu chi ddewis rhywbeth bach (neu fawr!) ymarferol positif i'w gyflawni oddi mewn i'r mudiad.

Os ydych chi'n teimlo bod well ganddoch chi ymrwymo i wneud rhywbeth ymarferol positif gyda mudiadau eraill, pob bendith i chi, a diolch am eich gwaith o ran dyfydol ein cenedl.

Os ydych chi'n teimlo bod well ganddoch chi dreulio eich amser yn ymosod ar genedlaetholwyr, gwnewch eich gorau!  Wnawn ni ddim plygu...:-)

4 ymateb Share

Ymateb i erthygl rhyfedd y Cymro

Fel bydd rhai ohonoch chi efallai wedi gweld, mae'r Cymro yr wythnos hon wedi cyhoeddu tudalen blaen (dim llai!) yn awgrymu nad yw'r mudiad Cymuned yn bodoli am bod y Cymro wedi methu cael gafael arnom ni.  Mae'n bosib mae dyma'r tudalen blaen mwyaf rhyfedd dw i erioed wedi'i ddarllen!

A wnaethoch chi anfon ebost atom ni, Mr Halliday?  Mae ein cyfrif ebost yn awgrymu fel arall.

A wnaethoch chi ffonio rhif ffôn symudol y Cadeirydd, Mr Richard Evans, sydd wedi bod ar gael i'r Wasg ers blynyddoedd?  Naddo, mae'n ymddangos.

A wnaethoch chi ffonio rhif ffôn symudol y Prif Weithredwr, Mr Aran Jones, sydd wedi bod ar gael i'r Wasg ers blynyddoedd?  Naddo, mae'n ymddangos.

A wnaethoch chi gofrestru ar y wefan mae'r Cymro yn cyfeirio ati yn yr erthygl, lle mae modd i unrhyw un gynnig syniadau, gwirfoddoli, neu gysylltu gyda'r mudiad?  Mae ein cofnodion yn dangos fel arall.

A wnaethoch chi anfon Tweet atom ni, efallai?  O, na, mae'n ddrwg gen i, wnaethoch chi ddim.

Efallai bod chi wedi trio Facebook?  Naddo - i bobl ifanc mae hynny, mae'n siwr.

Yn ystod y cyfnod mae'r Cymro yn honni iddyn nhw geisio cysylltu gyda ni, mae'r canlynol wedi llwyddo i gysylltu gyda ni ac i gydweithio gyda ni: Dweud Petha (S4C), y Daily Post, y Western Mail, a BBC Radio Wales.

Sut oedden nhw yn medru cysylltu gyda ni, Mr Halliday, a chi ddim?

A wnaethoch chi drio anfon colomen, efallai?  Os felly, bydd rhaid i ni ymddiheuro, dydan ni ddim yn cadw ein ffenestri'n agored bob tro.

Cyn sgwennu'r pwt yma o ymateb, rhoddais gynnig ar ffonio'r Cymro er mwyn trafod yr erthygl - ond wnaeth neb ateb y ffôn.

Ydyn nhw'n dal i fodoli, 'sgwn i?

***

Ymddiheuriadau llwyr!

Ein camgymeriad ni!

Mae'n ymddangos i awdures yr erthygl gofrestru ar y wefan hon, fel cefnogwr, ychydig cyn ysgrifennu'r erthygl!

Dyma gip i'n panel rheoli ni:

Karen Owen yn cefnogi Cymuned?!

Pam wnaethoch chi ddim anfon neges trwy'r wefan, Karen?  Mae'n ddigon hawdd.

Neu ebost cyffredin, hyd yn oed?

Neu - efallai - doeddech chi ddim isio siarad gyda ni cyn rhedeg stori camarweiniol sydd yn ail-adrodd ambell i hen gelwydd?

7 ymateb Share

Dyma wefan newydd Cymuned

Wedi trafodaeth ar y Pwyllgor Gwaith ac yn y Cyfarfod Blynyddol, dan ni wedi penderfynu defnyddio sustem newydd er mwyn galluogi ni i gysylltu'n well efo pobl sydd isio gwneud gwahaniaeth.

Cafodd yr un sustem ei ddefnyddio gan yr SNP yn yr etholiad diwethaf yn yr Alban, ac mae'n gwneud hi'n bosib i gefnogwyr ac aelodau gweld a llywio popeth sy'n digwydd efo'r mudiad - fel y gweli di wrth edrych o gwmpas y gwahanol ffyrdd mae modd i ti osod dy syniadau di wrth galon y mudiad rwan, trwy awgrymu ymgyrchoedd neu dactegau a thrwy ennill cefnogaeth i'th syniadau, neu drwy alw am gyfarfodydd cyhoeddus neu hyd yn oed raliau.

Mae'r sustem, NationBuilder, wedi dweud wrthom ni y bydd modd i ni gyfieithu'r rhyngwyneb yn iawn erbyn diwedd y flwyddyn - tan hynny, rydym yn ymddiheuro am y darnau bach o Saesneg fan hyn a fan draw ar y wefan.

2 ymateb Share

← Previous  1  2