Bryn Williams

signed Addysg Gymraeg via 2014-01-08 05:47:53 -0500

Addysg Gymraeg

Mae ysgolion cyfrwng Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg yn gadael i lawr y plant sydd yn eu mynychu nhw.

Maen nhw'n gadael y plant heb y gallu i gymryd rhan gyflawn yn eu cymunedau eu hunain.

Mae hyn yn annerbyniol ac yn anfoesol.

Maen nhw hefyd yn annog mewnfudwyr i feddwl nad oes rhaid dysgu iaith eu cymuned newydd, a bod dim angen i'w plant ddod yn rhan o'r gymuned newydd honno.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod er mwyn galw ar y Cynulliad i fynnu bod pob ysgol yn Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr.

[Nid yw'r ddeiseb hon yn cynnwys Sir Gâr eto am nad oes gwirfoddolwyr gynnon ni sydd yn gyfarwydd â'r sefyllfa yn Sir Gâr.  Pe hoffet weld Sir Gâr yn cael ei chynnwys, awgryma hynny o dan 'Syniadau Chdi' - os bydd digon o bobl yn cytuno, byddwn yn ei newid.]

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
45 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fynnu bod pob ysgol yng Ngwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr fel bod eu myfyrwyr yn medru chwarae rhan lawn ym mywyd eu cymunedau eu hunain.


signed Treth Stamp via 2014-01-08 05:47:21 -0500

Treth Stamp

Mae treth stamp eisoes yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol - byddai'n hawdd iawn iddo fo amrwyio o blaid pobl leol hefyd.

Byddai pobl leol yn cael gostyngiad ar dreth stamp wrth brynu tŷ, a byddai pobl o tu allan i'r sir/gwlad yn talu'n ychwanegol - gyda'r arian ychwanegol yn mynd at brosiectau tai fforddiadwy lleol.

Dyma'r unig ffordd i wneud yn siwr bod pobl leol yn medru cystadlu yn y farchnad agored - yn hytrach na gorfod symud i mewn i ghettoes tai fforddadwy yn unig.

Os wyt ti'n cytuno gyda'r syniad yma, ac isio i ni bwyso ar y Cynulliad i ofyn am y grym i weithredu hyn, llofnoda'r ddeiseb isod.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
25 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Genedlaethol Cymru i geisio'r grym angenrheidiol er mwyn cynyddu'r treth stamp ar gyfer prynwyr sydd ddim yn lleol, ac er mwyn cynnig gostyngiad ar dreth stamp ar gyfer prynwyr lleol.


signed Iaith Cynghorau Sir 2014-01-08 05:42:18 -0500

Iaith Cynghorau Sir

Allan o 22 cyngor sir, dim ond un, Gwynedd, sydd yn gweithio'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae polisi iaith Gwynedd wedi gwneud gwahaniaeth hynod bwysig i agweddau tuag at y Gymraeg yng Ngwynedd.

Mae'n hen bryd i gynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr ddilyn polisi iaith Gwynedd - byddai'n creu gwaith safonol i siaradwyr y Gymraeg, gwasanaethau dwyieithog cyflawn i drigolion i siroedd hynny, a rheswm clir ac ymarferol i fewnfudwyr ddysgu'r iaith.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod yn galw ar y Cynulliad i annog y cynghorau sir hynny i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Ceredigion, Sir Gâr, Conwy ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.

Diolch!

38 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog cynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd a gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.