Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Y Cyfrifiad a'r Fro

Mae llawer wedi'i ysgrifennu ynglŷn â ffigyrau'r cyfrifiad, a'r gostyngiad fu yn niferoedd y Cymry Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf, felly does dim pwynt i fi ail dorri'r un un cwysi.  Ond mae un elfen nag ydw i wedi gweld yn cael ei grybwyll gan eraill:

Yn y Fro, mae cyfatebiaeth ddiddorol i'w weld rhwng niferoedd y Cymry Cymraeg a'r niferoedd a anwyd yn Lloegr.

 Dyma'r ffigyrau yn gryno:

 

 

2001

2011

Cwymp

 

Yn siarad Cymraeg

 rhyw fedr Cymraeg

Wedi'i eni yng Nghymru

Yn siarad Cymraeg

 rhyw fedr Cymraeg

Wedi'i eni yng Nghymru

Yn siarad Cymraeg

 rhyw fedr Cymraeg

Wedi'i eni yng Nghymru

Ceredigion

51.80%

61.20%

58.60%

46.60%

57.10%

55.30%

5.20%

4.10%

3.30%

Môn

59.80%

70.40%

67.60%

56.10%

68.60%

66.40%

3.70%

1.80%

1.20%

Gwynedd

68.70%

76.10%

69.80%

64.30%

72.90%

66.80%

4.40%

3.20%

3.00%

 

 Gwelir o'r tabl fod y cwymp yn y niferoedd sydd ag unrhyw fedr yn y Gymraeg ym mhob un o'r tair sir yn debyg iawn at y cynydd yn nifer y bobl a anwyd y tu allan i Gymru.  Ar ôl ystyried y bydd cyfran o blant mewnfudwyr a aned yma hefyd yn ddi-Gymraeg, tybed ai mewnfudwyr sydd yn cyfri am y cwymp i gyd?

 Ta beth am hynny, y peth pwysicaf yn y ffigyrau yw'r cyfatebiaeth agos iawn rhwng y niferoedd a aned yng Nghymru a chyfran y Cymry Cymraeg.  Noder bod Gwynedd wedi llwyddo i gadw'r cyfran sy'n siarad Cymraeg yn agos iawn at y cyfran a aned yng Nghymru. Ar ôl ystyried y sawl fydd wedi'u geni yng Nghymru ond sydd ddim yn siarad Cymraeg, rhaid bod cyfran helaeth o'r rhai a aned tu allan ir wlad wedi dod o siarad Cymraeg.  Mae o leiaf testun gobaith yno, os nad newyddion da!

 Mae'n anodd iawn dod at gasgliad cywir o'r ffigyrau hyn – bydd yn rhaid i ni aros nes bod modd i ni weld sut mae medr iaith yn cymharu gyda gwlad neu hyd yn oed sir genedigaeth yr unigolion, a dydw i ddim wedi cael clywed pryd bydd y data hynny ar gael eto. Ond mae cyfatebiaeth i'w gweld yn y ffigyrau uchod ddylai fod yn canu clychau gyda'r gwleidyddion sydd wedi bod yn beio'i gilydd ac yn gofyn am “gomisiwn” i ddyfodol yr iaith.

 Yn anffodus, r'yn ni'n gwybod prif achos dirywiad ieithyddol y Fro Gymraeg yn barod, sef methiant dysgu'r Gymraeg i fewnfudwyr. Yr hyn sydd eisiau yw strategaeth clir i bwyso ar y di-Gymraeg i ddysgu iaith eu cymunedau yn y Fro, cyfundrefn addysg sydd yn dysgu Cymraeg i'w plant, a newid diwylliant ym Môn a Cheredigion fydd yn codi statws yr iaith trwy'i gwneud yn iaith gwaith y cynghorau sir, fel sydd yng Ngwynedd.

 

NODYN:  Cyn i fi gael fy ngyhuddo o ymuno yng Nghlwb "lladd ar Sir Gâr", dydw i ddim wedi cynnwys Sir Gâr yn y tabl uchod oherwydd bod y sefyllfa yno mor wahanol i'r siroedd gwledig.  Yn yr un ffordd, nid yw Sir Benfro yma oherwydd natur ieithyddol cymhleth y sir.

 

*****************

 Mae sawl un arall wedi sôn am yr angen am swyddi a datblygiad economaidd yn y Fro. Mae'n amlwg na fydd ein plant yn aros yma os nad oes gwaith iddynt, yn enwedig o ystyried prisiau tai a diffyg tai cymdeithasol, ond mae rhywbeth rhyfedd iawn yn digwydd, yn sicr yn Ne Ceredigion, gyda'r gwaith sydd ar gael, yn enwedig mewn elusennau a'r trydydd sector.

 Dydw i ddim yn gwybod beth yn union yw sail y broblem, ond rydw i'n gweld bod 'na broblem.  O'r hyn dwi'n ei weld yn nyffryn Teifi, ychydig iawn o Gymry Cymraeg sydd ymysg rheolwyr y trydydd sector. Mae llwyth o weithgareddau i blant yn cael eu trefnu yn yr ardal, yn glybiau gymnasteg neu ieuenctid, yn weithgareddau i rieni a phlant, yn ddigwyddiadau i'r gymuned ac ati. Yn amlach na pheidio, arweinwyr di-Gymraeg sydd i'r gweithgareddau yma. Ymysg elusennau sydd yn derbyn arian gan y Loteri, ac sydd yn cynorthwyo'r cyngor neu yn darparu gwasanaethu pwysig, rhyw gyfieithu cyndyn sydd ar gyfer y Gymraeg yn hytrach nag unrhyw ddefnydd naturiol o'r iaith.

 A dyma byddai fy ofn yn sgîl hyn: Pe tai'r llywodraeth, fory nesa, yn penderfynu i daflu arian mawr at y Fro er mwyn adeiladu economi gref, yn Saesneg byddai pob cynllun yn cael ei weithredu. Byddai pob pwyllgor yn gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg, ac yn gweld y Gymraeg fel cost ychwanegol, lle mae gorfodaeth cyfieithu er mwyn bodloni rheolau cyllido, yn hytrach nag er mwyn i'r bobl leol allu gwneud pethau trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain (dyma, wrth gwrs, sydd yn digwydd yn barod yn amlach na pheidio).

 A'r pen draw byddai economi wedi'i adeiladu ar gyfer y Saesneg, a phawb yn derbyn mai hynny yw'r drefn naturiol.

 Byddaf yn ailymweld â'r economi yn y flwyddyn newydd.

 

******************

Bu tipyn o sbloets yn Golwg 360 ynglŷn â sylwadau Simon Brooks ynglŷn ag oferedd ceisio adfywio'r Gymraeg yn Sir Gâr a Cheredigion.

Wedi darllen rhai o'i sylwadau ar twitter, mae'n debyg i Golwg ddefnyddio bach o lwch hud golygyddol i godi tymheredd y ddadl - er enghraifft wrth roi'r argraff bod Simon am i ni "anghofio" Sir Gâr - ond byrdwn ei ddadl oedd y dylen ni ganolbwyntio adnoddau prin ar Wynedd, lle mae Simon yn gweld bod gobaith i wariant ddwyn ffrwyth.

Ond, pwyll piau hi!  Ffigyrau fesul sir yn unig a ryddhawyd y tro yma, ac mae Simon yn gywir bod mwy o obaith i'w weld yng Ngwynedd ar y golwg cyntaf.  Mae'n bosib, ar raddfa sirol, taw yng Ngwynedd y mae'r gobaith mwyaf i ni adfer yr iaith i'w phriod le yn iaith gymunedol ar ardal eang.  Ond y mae'r ffigyrau hyn yn cuddio gwead llawer mwy cymhleth o sefyllfaoedd.

Er enghraifft, yma yng Ngheredigion, y mae cymunedau'r arfordir wedi'i Seisnigeiddio'n llwyr gan ymwelwyr na aeth adref.  Mae trefi Llambed ac Aberystwyth a'u Prifysgolion yn cuddio'u Cymry dan niferoedd helaeth o fyfyrwyr di-Gymraeg.

Eto i gyd, diddorol bydd gweld ffigyrau am Gymreictod ardaloedd megis Llandysul a Thregaron yn 2011.  Cwymp sylweddol ers 2001 efallai, ond cymunedau sydd a'u heneidiau dal yn gyflawn, ac yn barod am y cymorth y mae Simon am ei ganolbwyntio yng Ngwynedd.

Mae Sir Gâr i'w weld yn achos coll, o'r ffigyrau, ond eto i gyd, mae'r Sir yn rhedeg o ddyffrynnoedd ôl-ddiwydiannol y dwyrain hyd at ffin gwledig Sir Benfro, a'r ystod o wahanol fathau o gymuned yn arwain at wahaniaethau mawr yn rhesymeg a chanlyniadau ieithyddol y sefyllfa bregus sydd ohoni nawr.

Mae Cymuned wedi dadlau erioed am ganolbwyntio ar amddiffyn "Y Fro", hynny yw y cymunedau hynny lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.  Rydym hefyd wedi dadlau dros ddatblygu'r "darpar Fro", y cymunedau hynny lle mae'r Gymraeg yn gryf (dros 50%), a lle byddai cynyddu'r niferoedd o ychydig yn galluogi iddi ail-gymryd ei phriod le fel iaith naturiol a di-ofyn y gymuned.

Ar raddfa fawr, dyna sydd gan Simon Brooks yma, mae'n siŵr - canolbwyntio ar y sir lle mae'r siaradwyr agosach at drothwy'r 70%.  Ond o weld y ffigyrau manylach a ddaw aton ni ym mis Chwefror, a gallu adnabod ardaloedd is-sirol lle mae'r niferoedd yn uchel, cawn osgoi gwastraffu ein harian a'n egni ar gymunedau yng Ngwynedd megis y Bermo, Aberdyfi neu Tywyn, a'u rhoi ar waith yn Llandysul, Tregaron neu Gastell Newydd Emlyn.

Mae'n hynod bwysig nag ydyn ni yn dechrau edrych yn rhy gul wrth geisio dad-wneud y niwed a ddaeth gan "frwsh llydan" Cymru-gyfan "Iaith Pawb".  Mae dadleuon maith i'w cael, ac efallai y bydd rhaid "anghofio" rhai ardaloedd lled-obeithiol os am ddefnyddio'r adnoddau sydd gyda ni yn y ffordd orau posib.  Ond gadewch i ni weld y manylion y gyntaf!

 

******************************

Yn olaf, mae datblygiad diddorol wedi bod yn y blogosffêr yn ddiweddar. Mae'n bosib bod mwy nag un ohonoch chi yn darllen blog Jac o the North. Nawr, fyddwn i ddim yn annog i neb dderbyn pob ffaith na barn oedd i'w darllen ar y blog, ond yn sicr roedd rhyw fedr arbennig gyda Royston (neu Jac) i ddod o hyd i ffeithiau a straeon oedd yn dangos ochr tywyll y mewnlifiad a sawl un o wendidau seilwaith presennol Cymru.

 Ond, yn sydyn reit, mae'r blog wedi diflannu, wedi'i ddiddymu gan Blogger oherwydd “sbam”. Does dim ffordd o apelio, na hyd yn oed cael rhagor o fanylion ynglŷn â'r tramgwydd, mae'n debyg, a dyna ni ffynhonnell arall o'r fath o newyddion sydd byth yn ymddangos ar y BBC wedi diflannu. Ond dyma sydd yn fy mhoeni i.  Dydw i ddim yn meddwl, ta pa gyhuddiadau eraill y gellid eu gwneud ynglŷn â'r blog, bod Royston yn sbamiwr, felly ai cwyn gan rywun oedd yn anghytuno gyda'i safbwynt cenedlaethoglar oedd wedi achosi'i dranc?

 Os felly, sawl blog arall ydyn ni'n mynd i golli dros y misoedd nesaf?

Do you like this post?

Be the first to comment