Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Torri gwair, neu dorri ar fenter lleol?

Mae Cyngor Ynys Môn newydd dyfarnu cytundeb torri gwair i gwmni Glendale o swydd Caerhirfryn, Lloegr. Mae'r cyngor, sydd bellach yn cael ei redeg gan Gomisiynwyr yn hytrach na'i gynghorwyr etholedig ei hunan, wedi'i feirniadu'n hallt gan rai am osod y cytundeb hwn gyda chwmni o Loegr:  Tan nawr, bu'r cytundeb gan Gyngor Sir Gwynedd, ac mae ofnau y bydd swyddi lleol yn cael eu colli, a thorwyr gwair di-Gymraeg yn dod o bell i gynnal a chadw ysgolion Môn.

Dywedodd y Cyngor wrth Golwg 360 y bu rhaid hysbysebu'r cytundeb ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd rheolau cystadlu ar gyfer cytundebau mawr yn y sector cyhoeddus.  Mae hyn yn ffeithiol gywir, wrth gwrs - mae'r rheolau yn gadarn ac yn glir.

Ond, fel mae Angharad Mair yn sôn yn ei cholofn yng nghylchgrawn Golwg rhai wythnosau yn ôl, er bod cytundeb o'r maint hwn (rhyw £1.2 miliwn dros 6 mlynedd, yn ôl y sôn) yn gorfod ufuddhau i'r ddeddf, mae'n bosib y byddai wedi bod modd i osgoi'r farchnad agored.  Byddai cadw'r cytundeb yn lleol wedi bod ychydig yn fwy drud i'r cyngor, ond byddai wedi sicrhau bod yr elw a'r gyflogaeth yn aros yng nghyffiniau Môn, yn hytrach nac anfon yr elw i gyd i Swydd Caerhirfryn, a'r cyflogau i bwy a ŵyr ble?

Yn ôl y BBC, ni thrafodwyd y cytundeb gyda'r cynghorydd etholedig sydd â chyfrifoldeb yn y maes, felly dewis unbeniaethol y Comisiynydd oedd hyn, yn ôl pob tebyg.

Mae dwy elfen i'r hanes sydd o ddiddordeb mawr i ni:  Effaith y cytundeb ar y Gymraeg, ac effeithiau posib y cytundeb ar gymunedau ac ysgolion lleol.

Mae'r elfen Gymraeg yn weddol blaen.  Os daw gweithwyr i dorri gwair ysgolion Môn o Loegr bydd y gweithwyr hynny yn ddi-Gymraeg, ac unrhyw arwyddion, gwaith papur, cyfathrebiadau gyda phlant a phobl leol, i gyd trwy gyfrwng y Saesneg.  Mae'n siwr y diflannith eu Saesnigrwydd i bydew Seisnigrwydd y pethau eraill sydd yn digwydd yn ddi-Gymraeg ym Môn:  P**o dryw fydd y Seisnigrwydd ychwanegol, mae'n siwr.

Tybed a fyddai Glendale wedi ennill y cytundeb pe tasai cymal iaith wedi bod yn y cytundeb?  Pe tai Cyngor Môn yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel mae Cyngor Sir Gwynedd, ac yn mynnu gwaith papur Cymraeg / Dwyieithog; pe tai galw wedi bod am rai gweithwyr Cymraeg oherwydd natur y gwaith yn ymwneud ag ysgolion.  O leiaf byddai peth o arian y cytundeb wedi gorfod mynd nôl i bobl a busnesau lleol, pe tasai cymal o'r fath yn bod.  Tybed sawl cytundeb arall fyddai'n aros "adre" tasai'r iaith yn fwy pwysig i Gyngor Môn?

Wrth gwrs, gyda'r comisiynwyr newydd yn rhedeg y cyngor, bydd rhaid i staff y cyngor ddangos eu hymrwymiad i'r bosys newydd.  Yn ôl gwefan Cyngor Môn, daw Mick Giannasi, y comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros bwrcasu yng Nghyngor Môn, o Heddlu Gwent.  Mae'n anodd meddwl am ardal o Gymru sydd yn fwy gwahanol yn ieithyddol na Gwent a Môn!  Tybed a fyddai unrhyw aelod o staff yng Nghyngor Môn a gododd bwnc yr iaith yng nghyd-destun cytundeb fel hwn yn cael gwrandawiad?  Tybed a fyddai Comisiynydd Cymraeg ei iaith wedi dilyn trywydd gwahanol yn yr achos hwn?  Gyda llaw, yn ôl gwefan Môn y mae Mick Giannasi yn aelod o fwrdd arloesedd yn y Cynulliad, ac yn "arwain at Absenoldeb Salwch"!  Efallai bod angen edrych ar ei arddull rheoli!

Ond gadewch i ni ysytried y cytundeb hwn yng nghyd-destun y gymuned leol.

Wrth gwrs, byddai torri'r cytundeb yn becynau llai wedi caniatau i gwmniau lleol gystadlu amdanyn nhw yn effeithiol.  Ond beth am i ni fynd yn llai fyth?

Ceir 56 ysgol ym Môn.  Felly, o rannu'r arian yn gyfartal, ceir ychydig dros £3500 yr ysgol i dorri'u gwair am flwyddyn.  Nawr, byddai rhai ysgolion bychain sydd ag ychydig iawn, neu ddim gwair o gwbl i'w dorri, ac eraill, felly, yn gallu gwario cryn dipyn yn fwy na £3500 ar wasanaeth cwmni lleol.

Dychmygwch felly bod cwmniau cymunedol yn ymgymryd â'r gwaith hyn.  Byddai cwmni cymunedol yn gallu cyflogi pobl ifanc leol i'w helpu yn eu haddysg, neu bobl yn eu hoed oedd angen rhyw arian i gefnogi'u pensiwn.  Byddai £4000+ yn gytundeb defnyddiol iawn i rywun oedd â diddordeb i gychwyn busnes cadw gerddi, neu yn ychwanegiad defnyddiol i'r pot ar gyfer rhywun lleol oedd yn cael anhawster prynnu neu renti tŷ yn ei gymuned ei hunan ar gyflog isel, neu yn help i deulu ifanc yn ceisio ymdopi â phrisiau tanwydd uchel, neu ffarmwr yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd...

Mae ein cymunedau Cymraeg yn marw, un wrth un, ac un o'r prif broblemau yw diffyg arian a swyddi yn y cymunedau hynny.  Ni fydd swyddi arian mawr fyth yn dod i gefn gwlad Cymru mewn niferoedd digonol i ddatrys ein tlodi.  Ond o ystyried gwariant cynghorau ar "fanion" fel torri gwair yr ysgol leol, neu rai mathau o gynnal a chadw, byddai modd i ni o leiaf rhoi cyfle i fwy o'n pobl ennill digon i aros yma.  Cofiwch, nad dim ond y bunt a ddaw gan y cyngor sydd i'w ystyried yma, ond yr un un bunt a gaiff ei wario yn y siop leol, a'i dalu i weithiwr y siop, sydd yn cael torri'i wallt gan rywun sydd wedi yn prynnu coffi yn y caffi lleol...

Yn ôl ymchwil diweddar gan gwmni cydweithredol yn Aberteifi, £2.70 yw gwerth pob £1 a werir yn lleol.  O ddilyn yr un rhesymeg, y mae rhoi cytundeb gwerth £1.2 i gwmni o'r tu allan wedi colli hyd at £3.24 miliwn i economi Ynys Môn.

 

Do you like this post?

Showing 6 reactions


commented 2013-12-21 17:23:56 -0500 · Flag
Thank you
@lt1400 tweeted link to this page. 2012-04-30 16:24:37 -0400
Torri gwair, neu dorri ar y Gymraeg? Golwg ar ffrae gwair Ynys Môn http://t.co/yhpMkSDR
@lt1400 tweeted link to this page. 2012-04-30 16:23:13 -0400
Torri gwair, neu dorri ar y Gymraeg? http://t.co/D6I473Dq via @Cymuned
@Ant1988 tweeted link to this page. 2012-04-29 09:01:04 -0400
Torri gwair, neu dorri ar y Gymraeg? Golwg ar ffrae gwair Ynys Môn http://t.co/yhpMkSDR
@Iestynap tweeted link to this page. 2012-04-29 08:58:07 -0400
Torri gwair, neu dorri ar y Gymraeg? Golwg ar ffrae gwair Ynys Môn http://t.co/yhpMkSDR
published this page in Blog 2012-04-28 16:05:00 -0400