Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Gwendidau Ysgolion Dwyieithog

Mae'r cofnod isod wedi'i gymryd o flog Adam Jones, Blog Banw, sydd i'w weld yma.  Mae'n arbennig o berthnasol i'r Fro Gymraeg, lle mae unrhyw wendid yn y gyfundrefn addysg yn mynd i arwain at wanhau'r Gymraeg bob tro.  Diolch i Adam am ei ganiatad i ddefnyddio'r darn, ac am ei sylwadau cefnogol.

Ysgolion Dwyieithog vs Ysgolion Penodedig Cymraeg

Mae’r blog hwn yn rhyw ymateb ar yr hyn a ysgrifennodd Arfon Jones ar flog (Plaid Cymru Wrecsam). Rhaid i mi ddweud bod Arfon yn codi pwyntiau dilys iawn yn ei ymatebiad i un o erthyglau’r Cymro gan sôn am y wahaniaeth sydd yn bodoli rhwng ysgolion ‘dwyieithog’ ac ysgolion ‘Cymraeg’.

Nawr fel rhywun sydd newydd adael Ysgol Dyffryn Aman (Chweched Dosbarth) sydd yn ysgol ‘Ddwyieithog’ mae’r pwnc hwn yn un sydd yn agos iawn at fy nghalon. O fy mhrofiadau personol i dydy ysgolion dwyieithog ddim yn gweithio yn y bôn, byddwch o hyd yn cael rhaniadau ymysg pa iaith a siaradent ac hefyd y Gymraeg sydd o hyd yn colli tir mewn sefyllfaoedd ‘dwyieithog’ ac nid rhai ‘uniaith’ gan fod pawb yn gallu deall a siarad Saesneg.

Ffantasi llwyr yw meddwl bydd y ‘Cymry Cymraeg’ yn defnyddio ond Cymraeg gan taw dyna’u hiaith nhw, tra bydd rheiny sydd yn Saesneg eu hiaith yn defnyddio’r Saesneg. Yr hyn sydd yn digwydd mewn realiti yw bod y grwpiau yn cymysgu, ac wrth gwrs integreiddio’n beth iach a da, ond mewn cyfystyr ieithyddol mae’n andwyol iawn. Beth sydd yn digwydd yw bod y Gymraeg yn colli tir gan ddefnyddia’r disgyblion Saesneg fel ‘lingua franca’. Er ceir yn aml unigolion fydd yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd mae’r iaith cymdeithasu lle yr ymgasgla mwy o bobl at ei gilydd bron yn ddieithriaid yn troi’n Saesneg.

Yn wir yn Sir Gâr sefydlwyd yr ysgol benodedig Cymraeg gyntaf oll yng Nghymru ond mae’n drueni nad yw’r un awch na chwaith uchelgais wedi parhau hyd heddiw ar lawr y sir. Yr hyn a gawn yn Sir Gâr yw rhyw 60% o ysgolion cynradd yn rhai cyfrwng Cymraeg, tra ond rhyw 30% o ysgolion uwchradd sydd yn parhau yn rhai cyfrwng Cymraeg. Ar ran niferoedd mae’r ffigyrau hyd yn oed yn waeth gyda chwymp syfrdanol ar ran dilyniant ieithyddol.

Yn Ninefwr, sef yr ardal lle y drigaf i, mae oddeutu 85% o’r ysgolion cynradd yn rhai cyfrwng Cymraeg (categori A) ond dim ond un ysgol uwchradd allan o bump sydd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae’r lleill yn rhai ‘dwyieithog’. Ond mae’r ethos a’r cadernid ieithyddol a bodolodd yn ystod y sector cynradd yn syth yn diflannu pan êl y plant i’r ysgolion uwchradd.

Mae fy hen ysgol i, sef Dyffryn Aman yn addysgu oddeutu 70% trwy gyfrwng y Gymraeg, fydd yn cynyddu flwyddyn nesaf i 80%. Ond ble mae’r ffigyrau yn ein cam arwain yw ar ôl cyfnod allweddol 3, h.y. o’r oedran 14 – 19. Os felly yn diffinio ysgol ar y sail bod 70/80% o’r pynciau yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg byddech chi’n ryw dybio bod hwn yn golygu bod o leiaf 80% o’r holl bynciau yn cael eu cynnig ym mhob cyfnod allweddol trwy gyfrwng y Gymraeg, yn anffodus ffantasi llwyr sydd ddim yn digwydd yw hynny.

Nawr yn fy ysgol i, ysgol fawr gyda rhyw 1600 o ddisgyblion, rhyw 36% o gartrefi Cymraeg eu hiaith (mewn ardal lle siarada dros 70% o’r boblogaeth Gymraeg) a rhyw 59% yn cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith Gyntaf. Serch hynny pan yn dod i’r opsiynau yn ystod y TGAU dim ond 5 pwnc allan o 40 oedd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg – Addysg Grefyddol, Daearyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama a Hanes. Er gwaetha’r ffaith bod na bynciau eraill yn cael eu cynnig lle yr oedd mwyafrif y dosbarth yn Gymry mamiaith, gyda’r athrawes hefyd yn gymwys i ddysgu trwy gyfrwng yr iaith, a’r gwersi hynny’n Saesneg. Astudiaethau Corfforol fel un enghraifft.

Mae’r un yn wir am gyfnod allweddol 5 hefyd sef yn ystod y chweched. Nawr does dim dwywaith felly bod y fath ‘categoreiddio’ yn camarwain rhieni ac hefyd yn golygu bod ystadegau’n ymddangos yn iachach nag ydynt.

Nawr credwch neu beidio mae fy nghyn ysgol i mewn llawer gwell cyflwr ar ran y Gymraeg nad yw nifer o ysgolion eraill Sir Gâr megis Ysg
( fe}>2*C Ysgol Tregib ac ati. Yn Ysgol Gyfun Emlyn dim ond rhyw 20-40% gallwch astudio drwy’r iaith Gymraeg ac felly mae’r Cymry yn mynd i ysgol Dyffryn Teifi neu Lambed. Ysgol Gyfun Emlyn felly yn cael ei hystyried yn ysgol ddwyieithog, sydd i bob pwrpas yn ysgol cyfrwng Saesneg mewn popeth ond enw. I beth mae’r awdurdodau yn ceisio cwato tu hol i enwau ac ystadegau camarweiniol yn lle mynd ati caib a rhaw i wir newid y sefyllfa?

Yn Nhre-gib mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy brawychus, yr un categori ieithyddol ag Ysgol Dyffryn Aman lle bo rhaid i o leiaf 70/80% o’r pynciau hefyd gael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yn rhaid i ddisgyblion cyfnod allweddol 4 a 5 yr oedd yn dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg fynychu’r dosbarthiadau Saesneg am 7 gwers y pythefnos ac yna cael 2 wers ‘cyfieithu’ ychwanegol. Roedd hwn yn golygu bron yn ddieithriad bod disgyblion yn dewis gwneud pethau trwy gyfrwng y Saesneg am fod yr holl balafa yn gosod baich ac hefyd argraff gwael arnynt.

Beth sydd yn digwydd yn sgil hynny wedyn yw bod yr un ysgolion yn defnyddio’r esgus bod na ‘ddim galw’ am y pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfnodau allweddol canlynol fel rhyw rheswm teilwng i beidio a’u cynnig. Cylch dieflig felly, a beth sydd yn digwydd? Ie y Gymraeg sydd yn colli tir, ac hwn yn ei chadarnleoedd!

Mae angen i’r Cynulliad arwain ar y polisi hwn, nid yr awdurdodau lleol, gan mai rhywbeth sydd o bwys cenedlaethol  yw’r iaith Gymraeg, ac i’w sicrhau’i dyfodol, rhaid yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg ar gael i bawb ym myd addysg, nid yw’r awdurdodau lleol yn gwneud hyn, mae’n golygu bod gennych ddarpariaeth ddigon anghyson a thameidiog ar draws y wlad, sydd yn golygu i’r Gymraeg barhau i golli tir.

Mae angen cael gwared ar y syniad hwn o ‘ysgolion dwyieithog’ dydyn nhw ddim yn gweithio ac fel un sydd wedi bod mewn un, dwi wedi cael digon ar ddarllen amryw ‘adroddiad’ ‘strategaeth’ bondigrybwyll gan awdurdod lleol Cyngor Sir Gâr ac hefyd Llywodraeth Cymru yn sôn am ba mor lwyddiannus ydynt. Dydyn nhw ddim, mae’n hen bryd diffinio’r ysgolion yn ôl iaith yn hytrach na faint o hyn a hyn yr ydynt yn cynnig. Ysgol cyfrwng Cymraeg, neu ysgol cyfrwng Saesneg, a dim fel arall.

*************************

Er mwyn arwyddo'r ddeiseb yn galw am ysgolion Cymraeg yn y Fro Gymraeg, ewch at dudalen Ysgolion y Fro
Do you like this post?

Showing 4 reactions


commented 2013-12-21 19:09:50 -0500 · Flag
Thank you
@adamjones416 tweeted link to this page. 2011-09-03 18:16:04 -0400
Gwendidau Ysgolion Dwyieithog: Blogbost newydd diolch i Adam Jones! http://t.co/hLwNeHl
@Iestynap tweeted link to this page. 2011-08-29 14:56:58 -0400
Gwendidau Ysgolion Dwyieithog: Blogbost newydd diolch i Adam Jones! http://t.co/hLwNeHl
published this page in Blog 2011-08-29 12:28:00 -0400