Iestyn ap Dafydd

commented on Radio Ceredigion: Ceisiadau am y Drwydded Newydd 2012-04-29 10:57:53 -0400 · Flag
Llongyfarchiadau i Geraint Davies a’i dîm ar ennill trwydded gymunedol newydd, Radio Beca, fydd yn darlledu i Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Mae hyn yn newyddion mawr, gan nad yw OFCOM fel arfer yn caniatau i orsafoedd cymunedol ddarlledu dros ardal fawr, ond mae’n amlwg bod tîm Radio Beca wedi eu darbwyllo bod natur y gymuned Gymraeg yn y de orllewin yn cyfiawnhau newid eu harfer.

.

published Torri gwair, neu dorri ar y Gymraeg? in Blog 2012-04-28 16:05:00 -0400

Torri gwair, neu dorri ar fenter lleol?

Mae Cyngor Ynys Môn newydd dyfarnu cytundeb torri gwair i gwmni Glendale o swydd Caerhirfryn, Lloegr. Mae'r cyngor, sydd bellach yn cael ei redeg gan Gomisiynwyr yn hytrach na'i gynghorwyr etholedig ei hunan, wedi'i feirniadu'n hallt gan rai am osod y cytundeb hwn gyda chwmni o Loegr:  Tan nawr, bu'r cytundeb gan Gyngor Sir Gwynedd, ac mae ofnau y bydd swyddi lleol yn cael eu colli, a thorwyr gwair di-Gymraeg yn dod o bell i gynnal a chadw ysgolion Môn.


commented on Pwy sy'n gwneud beth? 2012-03-13 09:53:34 -0400
Hala E-bost misol mis Mawrth, ei roi ar y blog, a thrydar amdano.

Dy waith di

Pan wyt ti'n gwneud unrhyw ddarn o waith ar gyfer Cymuned, gad i bawb arall wybod amdano fo yn fan hyn.

Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bawb fedru gweld beth sy'n cael ei gyflawni, felly paid â bod yn swil!


published E-bost Mis Mawrth 2012 in Blog 2012-03-13 09:46:00 -0400

E-bost Mis Mawrth 2012

Dyma destun yr e-bost misol a anfonwyd at ein cefnogwyr ym Mis Mawrth:

  • Ymgyrch cyntaf Cymuned.org
  • Strategaeth Iaith
  • Straeon diddorol yn y wasg

 Ers i ni agor ein gwefan newydd, r'yn ni wedi bod yn dysgu sut i'w defnyddio, ac yn trio gwahanol ffyrdd o gysylltu gyda'n aelodau a'n cefnogwyr (gweler isod). Efallai dy fod ti wedi sylwi ar ein cyfrif trydar yn dechrau bywiogi, gyda newyddion o'r hyn sydd yn digwydd yn y Fro.


commented on Radio Ceredigion: Argymhellion Cymuned i OFCOM 2012-03-03 05:54:26 -0500 · Flag
Diweddariad: Cafwyd cadarnhad gan OFCOM nad oes unrhyw reidrwydd ar i’r trwyddedai newydd ddefnyddio unrhyw Gymraeg o gwbl ar Radio Ceredigion. Er bod Leighton Andrews (Gweinidog etholedig) a’r Bwrdd Iaith wedi gofyn am amod iaith, nid yw OFCOM yn credu ei fod o fewn eu grymoedd i gynnwys amod o’r fath.

Mae mwy o fanylion ar Golwg360 yma: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/66837-radio-ceredigion-y-gymraeg-ddim-yn-amod

Mae erthygl difyr gyda Vaughan Roderick ynglÅ·n a sefyllfa ehangach OFCOM yma: http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2012/02/maen_anodd_anghytuno_a_gosodia.html

commented on Swyddi a'r Gymraeg 2012-02-05 04:34:06 -0500 · Flag
Diddorol gweld Alun Ffred Jones yn Golwg yn cytuno ynglŷn â symud S4C mas o Gaerdydd. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/64436-symudwch-s4c-o-gaerdydd-medd-alun-ffred

commented on Pan ti'n gwirfoddoli ac felly'n gweld y tudalen hon... 2012-01-31 05:50:42 -0500 · Flag
Shw mae. Iestyn ydw i, ac erbyn hyn, dwi’n fewnfudwr i’r Fro Gymraeg…

Mae unrhyw un sydd yn derbyn ebost Cymuned, sydd wedi bod yn rhan o’r Pwyllgor Gwaith dros y 4 mlynedd ddiwethaf yn fy nabod i’n barod, ond i’r rhai sydd ddim, wi’n foi o gymoedd y de – bron yng Ngwent – sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Llandysul, nepell o fro enedigol fy mam-gu.

published Yma o Hyd, neu Cerddwn Ymlaen? in Blog 2012-01-30 16:41:56 -0500

Yma o Hyd, neu Cerddwn Ymlaen?

Na, nid rhyw bop-cwis rhyfedd, ond golwg byr iawn ar un agwedd o strwythr gweithredu newydd Cymuned.

O sgrifbin Dafydd Iwan y daw'r ddwy anthem hon – dwy o ganeuon mwyaf adnabyddus y dadeni Cymraeg modern. Mae nhw'n ganeuon lled-debyg i'w gilydd, yn sôn am lewyrch ein gorffennol, a'n gobeithion at y dyfodol.

Rydw i'n deall fy mod, o bosib, yn darllen gormod mewn i un ffaith bach, ond tybed sawl un arall sydd wedi sylwi taw, o'r ddwy, “Yma o hyd” yw'r gân a gaiff ei chanu fwyaf, ar radio ac yn y dafarn, gan gorau meibion a chorau cae rygbi.


published Gwendidau Ysgolion Dwyieithog in Blog 2011-08-29 12:28:00 -0400

Gwendidau Ysgolion Dwyieithog

Mae'r cofnod isod wedi'i gymryd o flog Adam Jones, Blog Banw, sydd i'w weld yma.  Mae'n arbennig o berthnasol i'r Fro Gymraeg, lle mae unrhyw wendid yn y gyfundrefn addysg yn mynd i arwain at wanhau'r Gymraeg bob tro.  Diolch i Adam am ei ganiatad i ddefnyddio'r darn, ac am ei sylwadau cefnogol.


published WRVS - tudalen Facebook in Blog 2011-08-24 05:13:58 -0400

WRVS - tudalen Facebook

Diweddariad - y mae tudalen Facebook wedi ei chreu i godi ymwybyddiaeth o benderfyniad y WRVS.  Ewch at http://www.facebook.com/pages/Local-Sandwiches-for-Ysbyty-Gwynedd/248518601847240 a "hoffi"'r dudalen er mwyn dangos eich gwrthwynebiad.  Yn well fyth, ewch ar wal y WRVS ar Facebook a gadael neges, ac anfonwch neges at ebost y WRVS, sef enquiries@wrvs.org.uk


Canoli gan y WRVS yn bygwth swyddi ym Mhorthaethwy

Y mae 6 swydd ym Mhorthaethwy dan fygythiad oherwydd canoli gan elusen gymunedol y WRVS.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

Yn ôl gwefan yr elusen, mae'r WRVS yn cefnogi cymunedau lleol mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymateb i argyfyngau, a chydweithio gyda phobl hŷn er mwyn iddynt allu byw bywydau mwy annibynol.

Ond mewn cam sydd, yn ôl y WRVS, wedi'i gymryd er mwyn gwarantu safon y bwyd a ddarperir ganddynt, mae'r WRVS wedi dod â chytundeb gyda Menai Deli i ddarparu brechdanau i Ysbyty Gwynedd i ben, a'i roi i gwmni Ginsters o Gernyw yn lle. Rhoddwyd llai na 4 wythnos o rybudd i'r Menai Deli, sydd wedi bod yn darparu brechdanau heb drafferth i'r WRVS ers 20 mlynedd.

Yn ôl y BBC mae Sally Rivers o'r WRVS yn dweud eu bod yn newid y cytundeb: “to ensure we have a clear and consistent message and product with one national sandwich supplier for all our services".

Felly yn ôl yr elusen “gymunedol” hon, dylai popeth drwy Brydain fod yn unfath, rhyw Macdonalds bach gydag “W” yn lle “M”. Does dim gwerth i 20 mlynedd o gydweithio, nag i gefnogi swyddi yn y gymuned leol, ac mae 4 wythnos yn ddigon o rybudd i roi i gwmni bach lleol er mwyn iddo ddiswyddo 6 o'i 10 gweithiwr. Hyd y gwyddwn ni, unig gŵyn y WRVS yn erbyn y Menai Deli yw nad ydy eu brechdannau union yr un fath a'r rhai a werthir gan y WRVS yn Kensington, Salford neu Leith.

Ond hwyrach bod agwedd y WRVS tuag at y gymuned leol yn cael ei adlewyrchu mewn bygythiadau a wnaed, yn ôl rhai, i'w gwirfoddolwyr eu hunain na fyddai modd iddynt barhau petasai nhw'n cefnogi'r cwmni lleol a'i weithwyr drwy arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid.

Mae Cymuned yn credu y dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi busnesau lleol, ac felly yn gwrthwynebu'r penderfyniad rhyfedd hwn gan y WRVS. Nid ydym yn gwybod am ddeiseb arlein, ond rydym yn annog i unrhyw un sydd yn agos at Ysbyty Gwynedd alw yno ac arwyddo'r deisebau sydd yn cylchredeg drwy'r ysbyty – mae dros 400 wedi llofnodi yn barod.

Yn fwy pwerus fyth fyddai i unigolion ysgrifennu at y WRVS. Mae nhw eu hunain yn dweud y byddai'n well gyda nhw ddelio gydag unigolion er mwyn esbonio eu penderfyniad. Ysgrifennwch, a rhannwch eich atebion gyda ni!

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

 

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

 

Y mae 6 swydd ym Mhorthaethwy dan fygythiad oherwydd canoli gan elusen gymunedol y WRVS.

 

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-14540603

 

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/08/16/400-sign-petition-in-ysbyty-gwynedd-sandwich-row-55578-29241148/

 

Yn ôl gwefan yr elusen, mae nhw'n cefnogi cymunedau lleol mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymateb i argyfyngau, a chyweithio gyda phobl hŷn er mwyn iddynt allu byw bywydau mwy annibynol.

 

Ond mewn cam sydd, yn ôl y WRVS, wedi'i gymryd er mwyn gwarantu safon y bwyd a ddarperir ganddynt, mae'r WRVS wedi dod â chytundeb gyda Menai Deli i ddarparu brechdanau i Ysbyty Gwynedd i ben, a'i roi i gwmni Ginsters o Gernyw yn lle. Rhoddwyd llai na 4 wythnos o rybudd i'r Menai Deli, sydd wedi bod yn darparu brechdanau heb drafferth i'r WRVS ers 20 mlynedd.

 

Yn ôl y BBC mae Sally Rivers o'r WRVS yn dweud eu bod yn newid y cytundeb: “to ensure we have a clear and consistent message and product with one national sandwich supplier for all our services".

 

Felly yn ôl yr elusen “gymunedol” hon, dylai popeth drwy Brydain fod yn unfath, rhyw Macdonalds bach gydag “W” yn lle “M”. Does dim gwerth i 20 mlynedd o gydweithio, nag i gefnogi swyddi yn y gymuned leol, ac mae 4 wythnos yn ddigon o rybudd i roi i gwmni bach lleol er mwyn iddo ddiswyddo 6 o'i 10 gweithiwr. Hyd y gwyddwn ni, unig gŵyn y WRVS yn erbyn y Menai Deli yw nad ydy eu brechdannau union yr un fath a'r rhai a werthir gan y WRVS yn Kensington, Salford neu Leith.

 

Ond hwyrach bod agwedd y WRVS tuag at y gymuned leol yn cael ei adlewyrchu mewn bygythiadau a wnaed, yn ôl rhai, i'w gwirfoddolwyr eu hunain na fyddai modd iddynt barhau petasai nhw'n cefnogi'r cwmni lleol a'i weithwyr drwy arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid.

 

Mae Cymuned yn credu y dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi busnesau lleol, ac felly yn gwrthwynebu'r penderfyniad rhyfedd hwn gan y WRVS. Nid ydym yn gwybod am ddeiseb arlein, ond rydym yn annog i unrhyw un sydd yn agos at Ysbyty Gwynedd alw yno ac arwyddo'r deisebau sydd yn cylchredeg drwy'r ysbyty – mae dros 400 wedi llofnodi yn barod.

 

Yn fwy pwerus fyth fyddai i unigolion ysgrifennu at y WRVS. Mae nhw eu hunain yn dweud y byddai'n well gyda nhw ddelio gydag unigolion er mwyn esbonio eu penderfyniad. Ysgrifennwch, a rhannwch eich atebion gyda ni!


commented on Protestio Gweladwy ac Effeithiol 2011-07-19 17:10:42 -0400 · Flag
A fyddai modd cyfuno hyn gyda Cymreigio’r Cynghorau? Byddai rhes o bobl gyda dreigiau ac arwyddion yn gweud “Pam mae’n rhaid gweithio drwy gyfrwng y Saesneg?” ac ati falle yn codi (neu amlygu)‘r pwnc ym meddyliau’r staff. Bydde’n rhaid bod yn ofalus iawn am eiriad yr arwyddion, wrth gwrs, ond mae’n rhaid codi awydd ar y gweithwyr er mwyn ennill yr hawliau.

signed Iaith Cynghorau Sir 2011-07-04 15:32:31 -0400
Pam ddylai unrhywun ym Môn neu Geredigion orfod gweithio drwy gyfrwng y Saesneg?

Iaith Cynghorau Sir

Allan o 22 cyngor sir, dim ond un, Gwynedd, sydd yn gweithio'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae polisi iaith Gwynedd wedi gwneud gwahaniaeth hynod bwysig i agweddau tuag at y Gymraeg yng Ngwynedd.

Mae'n hen bryd i gynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr ddilyn polisi iaith Gwynedd - byddai'n creu gwaith safonol i siaradwyr y Gymraeg, gwasanaethau dwyieithog cyflawn i drigolion i siroedd hynny, a rheswm clir ac ymarferol i fewnfudwyr ddysgu'r iaith.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod yn galw ar y Cynulliad i annog y cynghorau sir hynny i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Ceredigion, Sir Gâr, Conwy ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.

Diolch!

36 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog cynghorau sir Ynys Môn, Ceredigion, Conwy a Sir Gâr i fabwysiadu polisi iaith fewnol Gwynedd a gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.


signed Addysg Gymraeg 2011-07-04 09:15:23 -0400

Addysg Gymraeg

Mae ysgolion cyfrwng Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg yn gadael i lawr y plant sydd yn eu mynychu nhw.

Maen nhw'n gadael y plant heb y gallu i gymryd rhan gyflawn yn eu cymunedau eu hunain.

Mae hyn yn annerbyniol ac yn anfoesol.

Maen nhw hefyd yn annog mewnfudwyr i feddwl nad oes rhaid dysgu iaith eu cymuned newydd, a bod dim angen i'w plant ddod yn rhan o'r gymuned newydd honno.

Os wyt ti'n cytuno efo ni, llofnoda'r ddeiseb isod er mwyn galw ar y Cynulliad i fynnu bod pob ysgol yn Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr.

[Nid yw'r ddeiseb hon yn cynnwys Sir Gâr eto am nad oes gwirfoddolwyr gynnon ni sydd yn gyfarwydd â'r sefyllfa yn Sir Gâr.  Pe hoffet weld Sir Gâr yn cael ei chynnwys, awgryma hynny o dan 'Syniadau Chdi' - os bydd digon o bobl yn cytuno, byddwn yn ei newid.]

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i Arweinwyr Cyngor Sir Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
44 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fynnu bod pob ysgol yng Ngwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn yn llwyddo i roi sgiliau dwyieithog llawn i'w myfyrwyr fel bod eu myfyrwyr yn medru chwarae rhan lawn ym mywyd eu cymunedau eu hunain.


Y Gymraeg, gwleidyddiaeth, helpu pobl i gyflawni pethau. Pwy a wyr ble arweinith hynny! Welsh, politiics and helping people. Its fun!