Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Peryg neu gyfle? Uno adrannau cynghorau sir y Gogledd

Mae uno adrannau cynghorau sir yn peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg trwy fygwth polisi iaith Cygor Gwynedd. Os bydd rhaid i adrannau o fewn Cyngor Gwynedd gydweithio gyda chynghorau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg, caiff y gwaith arbennig i normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gwaith Cyngor Gwynedd ei danseilio'n ddifrifol. Modd bynnag, os bydd cynghorau fel Ynys Môn, Conwy a Dinbych yn bachu yn y cyfle i normaleiddio'r Gymraeg yn yr adrannau bydd yn cydweithio gyda Gwynedd, byddai'n gam anferth ymlaen ac yn helpu sicrhau dyfodol gwirioneddol i'r Gymraeg fel iaith broffesiynol y Gogledd.

'I raddfa fawr, mae'n rhaid diolch i Gyngor Gwynedd am gryfder y Gymraeg yng Ngwynedd,' meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. 'Mae safiad y Cyngor o ran normaleiddio'r Gymraeg fel cyfrwng gwaith y Cyngor wedi bod o werth amhrisiadwy – ac os bydd hyn bellach yn cael ei danseilio trwy orfodaeth cydweithio gydag adrannau cynghorau sir eraill lle nad yw'r Gymraeg yn iaith gwaith, byddwn yn colli un o'r ychydig rhesymau real i deimlo hyder am ddyfodol yr iaith.'

Cred Cymuned fod angen trafodaeth cyhoeddus i sicrhau y bydd disgwyl i adrannau cynghorau sir sy'n cydweithio yn y Gogledd wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r mudiad eisoes yn rhedeg deiseb ar www.cymuned.org/iaith yn galw am estyn y nifer o gynghorau sir sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg o 1 allan o 22 i bedwar neu bump – byddai'n adlewyrchiad llawer tecach o'r ganran o Gymry sydd yn siarad y Gymraeg.

'Mae'n afresymol tu hwnt mai dim ond un cynghor sir yng Nghymru sydd yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg,' meddai Iestyn ap Dafydd, Trysorydd Cymuned. 'Dylai 4 neu 5 – Ynys Môn, Dinbych, Conwy, Ceredigion, a beth am Sir Gâr hefyd? Yn sicr iawn, os bydd rhaid i adrannau oddi fewn i Gyngor Gwynedd gydweithio gydag adrannau cynghorau sir eraill yn y Gogledd, mae'n rhaid iddyn nhw fod â'r hawl i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.'

Bydd Cymuned yn ymrwymo dros fil o bunnoedd i hyrwyddo eu deiseb, a'r trafodaeth pwysig hwn, dros y chwe mis nesaf. 'Rwy'n credu y byddai colli polisi iaith Gwynedd yn ergyd fwyaf i'r Gymraeg yn y ganrif hon,' meddai Aran Jones, 'ac mae'n rhaid sefyll yn erbyn y posiblrwydd annerbyniol hwn. Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd eisiau gwirfoddoli i helpu sefyll yn ei erbyn ar ein wefan at www.cymuned.org/iaith ac edrychwn ymlaen hefyd at gydweithio gyda'n ffrindiau mewn mudiadau eraill i sicrhau bydd polisi iaith Gwynedd yn ehangu yn lle crebachu.'

***

Er mwyn llofnodi ein deiseb yn galw am estyn polisi iaith Gwynedd i gynghorau sir eraill, ewch at www.cymuned.org/iaith
Do you like this post?

Showing 2 reactions


commented 2013-12-23 03:07:51 -0500 · Flag
Thank you
published this page in Blog 2011-09-09 11:01:39 -0400