Mewngofnodi yma rwan er mwyn cael mynediad at bopeth ar y wefan


Radio Ceredigion: Ceisiadau am y Drwydded Newydd

Llynedd, ceisiodd cwmni radio Town and Country ganiatad i newid amodau trwydded darlledu Radio Ceredigion. Roeddent am dorri ar y gofyniad am ddwyieithrwydd (tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg), a chynnwys 20% cerddoriaeth Cymraeg. Gwrthodwyd eu cais ar ôl i'r cyhoedd wrthod, bron yn unfrydol mewn ymgynghoriad gan OFCOM.

Eleni, daw'r drwydded i ben. Fel arfer, y mae'r hawl gan ddeiliad trwydded i ail-gynnig amdani drwy broses cyflym sydd yn sicrhau parhad gwaith y trwyddedai. Ond nid oes modd amrywio'r amodau mewn cais o dan y drefn gyflym, felly, mae T&C wedi rhoi'r gorau i'r drwydded, er mwyn ceisio eto ar eu telerau eu hunain. Ond y mae perygl na fydd T&C yn ad-enill y drwydded, gan fod cwmni arall hefyd wedi ceisio amdani.

Cwmni dan gadeiryddiaeth Geraint Davies, Ysgrifennydd NAS/UWT Cymru bydd Radio Ceredigion (Cydweithredol) (RC(C)), yn cynnwys sawl un o hen dîm rheoli Radio Ceredigion cyf. Bwriad y cwmni newydd yw i ddarparu arlwy fydd yn cynrychioli diwylliant Gymraeg yr ardal gan ddilyn model y Radio Ceredigion gwreiddiol, oedd, yn ôl RC(C), yn hynod lwyddianus.

 Mae'r ddau gwmni yn lled wahanol i'w gilydd.

 Mae Town & Country (Cewch weld eu cais yma), yn gwmni darlledu llwyddianus gyda seiliau cadarn. Yn ôl eu cais, nhw yw cwmni darlledu radio mwyaf Cymru, yn perchen ar Radio Sir Gâr a Radio Sir Benfro, ynghyd a nifer o orsafoedd eraill yng Nghymru.

 Mae'r cwmni yn honni “ymrwymiad i ddarparu rhaglennu rheolaidd a chanfyddadwy yn yr iaith Gymraeg a ... llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg”. Yn ogystal, dywed T&C eu bod yn “canolbwyntio’n olygyddol ar Geredigion”, mewn cyferbyniad ag unig orsaf radio masnachol arall y sir, sef yr orsaf genedlaethol, Real Radio.

 Nid yw Radio Ceredigion (Cydweithredol) (Cewch ddarllen y cais yma) yn bodoli eto, a dyma brif wendid eu cais o bosib. Bwriad y cwmni yw codi £100,000 o gyfalaf drwy werthu cyfrandaliadau yng Ngheredigion, er mwyn perthyn i'r gymuned. Maent wedi ymrwymo i'r Gymraeg, ac yn cynnig gwasanaeth dwy-ieithog cyflawn. Yn eu cais, mae RC(C) hefyd yn trafod phwysigrwydd adlewyrchu natur Cymreig yr ardal wrth ddarlledu yn Saesneg, ac yn nodi partneriaeth posib gyda Golwg cyf i ddarparu newyddion ar gyfer yr orsaf. Gallai'r syniad yna fod yn un wirioneddol gyffrous.

 Mae peryglon amlwg ynghlwm wrth gynnig RC(C). Er enghraifft, o fethu a chodi'r £100,000 llawn, a fyddai digon o gyfalaf gyda'r orsaf i weithredu'n effeithiol? Heb unrhyw “track record” diweddar, a oes modd gwybod bod gyda'r tîm y medrau masnachol i redeg gorsaf radio mewn byd hynod gystadleuol? Mae profiad yno o gynnal yr hen Radio Ceredigion, ond mae'r byd darlledu wedi newid. A ydy'r profiad yna'n ddigon?

 O ystyried y ceisiadau ar sail masnachol, ac wrth geisio osgoi unrhyw risg, rhaid taw cais Town & Country yw'r mwyaf tebygol o lwyddo. Deiliaid presennol, cwmni llwyddiannus, ac ymrwymiad clîr i natur dwyieithog yr ardal.

 

Ond, nid dyna ddiwedd y stori!

 

 Gadewch i ni ystyried gwasanaethau presennol T&C. Hawdd fyddai maddau i unrhywun sydd wedi gwrando ar Radio Ceredigion yn ddiweddar am anghofio taw yng Nghymru oedden nhw. Ar yr adegau prin pan fydda i yn clywed yr orsaf, gorsaf Saesneg a geir gydag ambell i “jingl” dwyieithog.

 Yn wir, rhwng 28 a 30 Medi 2011, cynhaliwyd Adroddiad Samplo Cynnwys ar Radio Ceredigion, oedd yn ddamniol ei farn o Gymreictod y sianel.

Er bod brandio’r orsaf (hy y jingyls, samplau wedi’u recordio ymlaen llaw ac ati) yn ymgorffori'r gofyniad dwyieithog drwyddi draw, roedd agwedd gyffredinol Radio Ceredigion ar gyfer diwallu’r gofyniad llafar dwyieithog yn anghyson braidd.”meddai OFCOM, cyn nodi nad oedd unrhyw Gymraeg ar raglenni'r dydd ar ôl brecwast, a bod y rhaglenni gofynnol Cymraeg yn cael eu hailadrodd. Cofiwch, nid ailadrodd achlysurol mo hyn: Yn ystod tridie'r arolwg, clywyd yr un un rhaglen yn ei chyfanrwydd am 06.00 ac am 18.00 ar ddau o'r tri diwrnod.

Dywed T&C eu bod am ddilyn yr un model yng Ngheredigion ag y maent yn dilyn yn Sir Gâr. Eto, dylai'r larymau fod yn canu'n uchel, gan fod Radio Sir Gâr yn waeth na Radio Ceredigion o ran ei ddarpariaeth Gymraeg.

Mae hyd yn oed ymchwiliad ychydig yn fwy manwl i ddarpariaeth arfaethedig T&C yn codi cwestiynau: Mae eu hymrwymiad i gynnwys Cymraeg i'w weld yn addewid i gynnal ambell i raglen tu allan i oriau brig: I wthio'r Gymraeg i'r ymylon, fel petai. Rhaid gwrthwynebu ymgais o'r fath yng Ngheredigion o bobman!

Felly, rhaid gofyn cwestiwn i OFCOM: Beth yw diben Radio Ceredigion? Ai creu gwasanaeth radio arall fydd yn gystadleuydd i Real Radio? Ai parhau gyda thrwydded ardal, oherwydd bod trwydded ardal wedi bod yn y gorffennol? Ai darparu gwasanaeth lleol fydd yn adlewyrchu natur unigryw cymunedau Ceredigion?

Er tegwch i bobl Ceredigion, dim ond un o'r ddau gais sydd yn agos ati. Os ydy RC(C) yn gallu codi'u cyfalaf yn llwyddiannus, yna rhaid i OFCOM wobrwyo'r drwydded iddynt. Mae gwendidau eu cais bob un, yn drwsiadwy:

  • I fod yn wirioneddol gydweithredol, rhaid i RC(C) agor eu hunain yn llwyr i'r gymuned, trwy bob ffordd bosib. Yn ogystal a'r cyfrandalwyr, rhaid i RC(C) wrando ar bob barn ymysg eu cynulleidfa, a'r boblogaeth fwyaf, trwy fforymau gwe, Trydar a Facebook, yn ogystal â thrwy ffurf mwy traddodiadol. Mae'r we yn rhoi'r gallu i fesur adwaith y gynulleidfa i raglen wrth iddi gael ei darlledu, ac er nad yw hynny'n bwysig i orsaf “canol y ffordd” / photoffit fel y model masnachol a geir gan T&C, gall fod yn hanfodol i orsaf bydd yn byw, neu'n marw, ar ewyllus da y boblogaeth leol. Rhaid wrth rywun ar y bwrdd rheoli sydd yn deall goblygiadau'r we.

  • Mae'r cwmni yn deall bod y Gymraeg yn erfyn positif, ond rhaid llwyddo i gyfathrebu hynny i ddarpar hysbysebwyr a phoblogaeth yr ardal. Rhydd y ddarpariaeth Gymraeg, ac yn enwedig y darparieth Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg, fantais anferth i'r orsaf o'i defnyddio a'i marchnata'n iawn. Anodd bydd darbwyllo rhai bod “Cymreig” yn well nag “Eingl-americanaidd”, ond o gael y “Bwrlwm” (“Buzz” y we) yn iawn, bydd modd tynnu mwy a mwy i'r gorlan.

  • Un o nodweddion “dwyieithrwydd” Cymru yw bod y di-Gymraeg yn cael gwrthod y Gymraeg yn hawdd. Mae peryg y bydd nifer yn diffodd rhaglenni Cymraeg, ac yn anghofio dod nôl ar gyfer rhaglenni Saesneg. Rhaid i'r cwmni ddod i ddeall sut mae dod dros y broblem yma, drwy ymchwil neu arbrawf.

  • Rhaid i aelodau'r bwrdd rheoli fod yn onest iawn gyda'u hunain, cydnabod unrhyw fannau gwan, a phenodi aelodau newydd, neu gynghorwyr allanol fel bo'n briodol.

Byddai modd i orsaf radio Cymraeg a Chymreig wneud gwahaniaeth bwysig i fywydau trigolion Ceredigion, trwy uno cymunedau gwasgaredig y sir mewn ffordd sydd yn eu cryfhanu, nid eu bychanu. Rhaid i OFCOM ystyried hynny wrth gloriannu'r ceisiadau hyn.

 

Post nesaf: Argymhellion Cymuned i OFCOM:


Do you like this post?

Showing 5 reactions


commented 2013-12-23 14:56:41 -0500 · Flag
Thank you
commented 2012-04-29 10:57:53 -0400 · Flag
Llongyfarchiadau i Geraint Davies a’i dîm ar ennill trwydded gymunedol newydd, Radio Beca, fydd yn darlledu i Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Mae hyn yn newyddion mawr, gan nad yw OFCOM fel arfer yn caniatau i orsafoedd cymunedol ddarlledu dros ardal fawr, ond mae’n amlwg bod tîm Radio Beca wedi eu darbwyllo bod natur y gymuned Gymraeg yn y de orllewin yn cyfiawnhau newid eu harfer.

.
@Iestynap retweeted @Cymuned 2012-02-10 13:14:08 -0500
Radio Ceredigion - Cymuned yn cefnogi cais cwmni lleol. Darllenwch yma: http://www.cymuned.org/radio_ceredigion
@blogiadur tweeted link to this page. 2012-02-10 10:35:48 -0500
Radio Ceredigion: Ceisiadau am y Drwydded Newydd: Llynedd, ceisiodd cwmni radio Town and Country ganiatad i newi... http://t.co/PWsN7VLa
published this page in Blog 2012-02-10 09:39:00 -0500