Sioned Jones

commented on Protestio Gweladwy ac Effeithiol 2011-07-19 06:31:05 -0400 · Flag
Cytuno’n llwyr – y peth ola ‘da ni angen ydi codi gwrychun pobl. Protest sy’n gwneud i bobl feddwl am yr ochr arall…

signed Treth Stamp 2011-07-19 06:24:43 -0400

Treth Stamp

Mae treth stamp eisoes yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol - byddai'n hawdd iawn iddo fo amrwyio o blaid pobl leol hefyd.

Byddai pobl leol yn cael gostyngiad ar dreth stamp wrth brynu tŷ, a byddai pobl o tu allan i'r sir/gwlad yn talu'n ychwanegol - gyda'r arian ychwanegol yn mynd at brosiectau tai fforddiadwy lleol.

Dyma'r unig ffordd i wneud yn siwr bod pobl leol yn medru cystadlu yn y farchnad agored - yn hytrach na gorfod symud i mewn i ghettoes tai fforddadwy yn unig.

Os wyt ti'n cytuno gyda'r syniad yma, ac isio i ni bwyso ar y Cynulliad i ofyn am y grym i weithredu hyn, llofnoda'r ddeiseb isod.

Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:
  • Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru

  • Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod

  • Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Os wyt ti isio helpu ni i gyflawni'r amcanion uchod, llofnoda'r ddeiseb.
Diolch!
25 SIGNATURES
GOAL: 5,000 signatures

Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Genedlaethol Cymru i geisio'r grym angenrheidiol er mwyn cynyddu'r treth stamp ar gyfer prynwyr sydd ddim yn lleol, ac er mwyn cynnig gostyngiad ar dreth stamp ar gyfer prynwyr lleol.