Ddoe, bu rhaglen ar BBC Wales, “The Radio Wales Phone In” gyda Jason Mohammed yn trafod y cwestiwn dyrus “P'un sydd bwysicaf, Swyddi, neu'r iaith Gymraeg?”
Ymateb (neu gorymateb efallai) oedd y cwestiwn rhyfedd hwn i anniddigrwydd Cymdeithas yr Iaith bod cwmni uniaith Saesneg yn cynnal arolwg o effaith adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar y Gymraeg.
Fel sydd yn arferol wrth drafod cwestiwn mor dros ben llestri, cafwyd mwy o wres nag o oleuni yn y ddadl, ond mae'r cwestiwn yn codi pwnc bythol wyrdd yn y drafodaeth dros neu yn erbyn y Gymraeg. A oes rhaid i ni aberthu rhywbeth-dymunol-fel-arfer-swyddi er mwyn amddiffyn yr iaith? Yr ateb, wrth gwrs, yw “nagoes”. O ystyried anghenion y gymuned Gymraeg yn gynnar mewn unrhyw benderfyniadau, gellir cynllunio mewn ffordd fydd yn hybu'r Gymraeg yn hytrach na'i niweidio, heb golli ar y peth dymunol oedd ei angen yn y lle cyntaf.
Ond yn hytrach na chynllunio yn y ffordd lled negyddol hon – cymeradwyo neu wrthod datblygu cynlluniau ar sail faint o niwed mae nhw'n gwneud i'r Gymraeg – beth am y syniad hwn gan un o'n haelodau?
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad ei bod am sefydlu Parthau Menter (sef ardaloedd twf economaidd ar gyfer sectorau arbennig mewn ardaloedd unigol) dylai'r Cynulliad hefyd ystyried mesurau tebyg i gryfhau ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
Un o’r ffactorau sydd yn erydu’r ardaloedd Cymraeg yw allfudiad cyson pobl ifanc cynhenid oherwydd diffyg gwaith.
Mae strategaeth drafft y Llywodraeth eisoes yn argymell ardaloedd hybu iaith, ond pa fudd bydd i'r ardaloedd hyn os nad oes swyddi i gadw'r bobl Gymraeg yno? Er mwyn i'r Gymraeg ffynnu fel iaith gymunedol, mae angen cymuned weddol sefydlog i'w chynnal, a hanfod cymuned sefydlog yw economi lleol cryf.
Mae rhai camau amlwg fyddai'n sefydlu sail cryf i ardaloedd menter Cymraeg:
- Ad-leoli’r S4C newydd i’r gogledd neu’r gorllewin, yn hytrach na'i ganoli yng Nghaerdydd.
- Sicrhau proses tendro sydd yn caniatáu clytwaith o gwmniau cynhyrchu llai i gystadlu i S4C.
- Annog Mentrau Cymdeithasol sydd yn gweithredu trwy'r Gymraeg, ac yn darparu gwasanaethau naturiol Gymraeg o'i herwydd.
- Darparu cymorth i adnabod cyfleoedd economaidd sydd yn perthnasol i’r ardaloedd menter, yn enwedig ymysg Cymry Cymraeg ifanc.
- Sicrhau'r Gymraeg fel iaith fewnol i awdurdodau lleol a swyddfeydd Cynulliad sydd yn gwasanaethu'r ardaloedd.
- Datblygu twristiaeth diwylliannol ac ieithyddol, a dod ag atyniad unigryw Cymru – ei hiaith – at galon diwydiant twristiaeth yr ardaloedd Cymraeg.
- Targedu ardaloedd % uchel megis Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Blaenau Ffestiniog, Porthmadog, Llangefni, Caernarfon, Tregaron, Cwm Gwendraeth, Dyffryn Teifi
Braf byddai clywed eich sylwadau a'ch syniadau chi isod!
