Mae treth stamp eisoes yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol - byddai'n hawdd iawn iddo fo amrwyio o blaid pobl leol hefyd.
Byddai pobl leol yn cael gostyngiad ar dreth stamp wrth brynu tŷ, a byddai pobl o tu allan i'r sir/gwlad yn talu'n ychwanegol - gyda'r arian ychwanegol yn mynd at brosiectau tai fforddiadwy lleol.
Dyma'r unig ffordd i wneud yn siwr bod pobl leol yn medru cystadlu yn y farchnad agored - yn hytrach na gorfod symud i mewn i ghettoes tai fforddadwy yn unig.
Os wyt ti'n cytuno gyda'r syniad yma, ac isio i ni bwyso ar y Cynulliad i ofyn am y grym i weithredu hyn, llofnoda'r ddeiseb isod.
Pan byddwn ni'n cyrraedd y darged, byddwn yn:- Cyflwyno'r ddeiseb i Lywodraeth y Cynulliad
- Cyflwyno'r ddeiseb i arweinwyr i 4 plaid yng Nghymru
- Lobio am gyfarfod gyda Carwyn Jones i'w drafod
- Ffurfio grwp ymgyrchu i weithredu'n uniongyrchol
Rydym ni sydd wedi torri ein henwau isod yn galw ar Gynulliad Genedlaethol Cymru i geisio'r grym angenrheidiol er mwyn cynyddu'r treth stamp ar gyfer prynwyr sydd ddim yn lleol, ac er mwyn cynnig gostyngiad ar dreth stamp ar gyfer prynwyr lleol.
